Facebook Pixel
Skip to content

Polisi ID Prawf Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (HS&E)

Gofynion Adnabod (ID) ar gyfer Profion HS&E

Gwybodaeth Bwysig

Rhaid i bob dogfen a gyflwynir gan yr ymgeisydd fel dogfen adnabod:

  • Bod yn wreiddiol (dim llungopïau na chopïau digidol - ac eithrio e-Fisa)
  • Bod mewn dyddiad (yn ddilys) ar yr adeg y’i cyflwynir (heb ddod i’w ben)
  • Bod yn enw’r ymgeisydd (rhaid cyfateb i’r enw ar yr archeb prawf)*

*Rhaid i’r ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ychwanegol os yw eu henw wedi newid ers cyhoeddi’r ddogfen adnabod. Rhaid i’w dystiolaeth ychwanegol hon fod yn wreiddiol a rhaid iddi ddangos cysylltiad clir rhwng yr enw a ddangosir ar ID yr ymgeisydd a’i enw presennol, megis tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, papurau gorchmynion ysgariad amodol neu orchmynion ysgariad terfynol neu weithred newid enw.

Ni fydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn am brawf os na ddarperir y ffurfiau ID gofynnol ac ni fydd ffi’r prawf yn cael eu had-dalu.

Ffurfiau o ID Cynradd

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu un ffurf o ID Cynradd. Rhaid i’r ID Cynradd gynnwys:

  • Enw llawn yr ymgeisydd
  • Ffotograff adnabyddadwy o’r ymgeisydd
  • Llofnod yr ymgeisydd (ac eithrio e-Fisa)

Dewiswch un o’r canlynol:

  • Pasbort (DU neu Ryngwladol)
  • Trwydded Yrru ar ffurf Cerdyn-llun
  • Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) neu
  • Cerdyn Preswylio Biometrig (BRC) – dim ond i’w ddefnyddio fel ID Cynradd â llofnod. (Yn dilyn canllawiau’r Swyddfa Gartref, bydd cardiau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2024 yn cael eu derbyn nes bydd rhybudd pellach)
  • eVisa - (gan ddefnyddio Gweld a Phrofi trwy gyfrif UKVI)

Os nad oes gan ymgeiswyr y ffurf ofynnol o ID Cynradd, gallant gyflwyno dau fath o ID Eilaidd.

Rhaid i hyn gynnwys un o Restr A ac un o Restr B.

Rhestr A

Rhaid iddo fod yn ddilys a chynnwys enw’r ymgeisydd a ffotograff adnabyddadwy

  • Trwydded Yrru ar ffurf Cerdyn-llun o’r tu allan i’r DU/y tu allan i’r UE
  • Pasbort heb lofnod
  • Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Ewropeaidd y DU
  • CitizenCard neu gerdyn sy’n profi oedran arall yn dangos yr hologram PASS
  • Cerdyn Young Scot yn dangos yr hologram PASS
  • Cerdyn CSCS neu gerdyn Partner CSCS yn dangos logo CSCS (hologram)
  • Cerdyn Adnabod Lluoedd Arfog y DU
  • Cerdyn Adnabod Cyn-filwr Lluoedd Arfog y DU
  • Dogfen Deithio Swyddfa Gartref y DU
  • Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) neu
  • Cerdyn Preswylio Biometrig (BRC) heb lofnod. (Yn dilyn canllawiau’r Swyddfa Gartref, bydd cardiau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2024 yn cael eu derbyn nes bydd rhybudd pellach)

Rhestr B

Rhaid iddo fod yn ddilys a chynnwys enw a llofnod yr ymgeisydd

  • Cerdyn credyd
  • Cerdyn debyd
  • Trwydded Yrru Papur (a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2000)

Ffurfiau eraill o ID

Ffurflen Hepgor ID Prawf HS&E

  • Dim ond i’w ddefnyddio mewn amgylchiadau eithriadol lle na all yr ymgeisydd ddarparu’r ID Cynradd neu Eilaidd gofynnol
  • Rhaid i Ffurflen Hepgor ID Prawf HS&E gynnwys ffotograff wedi’i gydlofnodi o’r ymgeisydd a’i lofnod
  • Ceir arweiniad pellach ar y llythyr sydd ynghlwm wrth y Ffurflen Hepgor ID Prawf HS&E (PDF, 167KB).

Ffurflen ID Cadarnhau Bod Unigolyn o dan 16 oed

  • Dim ond ddefnyddio pan fo’r ymgeisydd o dan 16 oed ac yn methu â darparu’r ID gofynnol
  • Rhaid llenwi’r ffurflen hon ynghyd â’r ffurflen canitâd rhieni a chael ei llofnodi gan rywun mewn swydd â chyfrifoldeb yn yr ysgol neu goleg y mae’r ymgeisydd yn e mynychu
  • Ceir arweiniad pellach ar y llythyr sydd wedi’i atodi i’r Ffurflen Cadarnhau Bod Unigolyn o dan 16 oed (PDF, 160KB).

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch gofynion ID, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ynghylch Profi ar 0344 994 4488.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth