Facebook Pixel
Skip to content

Cynigion Lefi ac Ymgynghoriad

Diweddariad ar Gonsensws

Yn haf 2022, cyhoeddodd CITB y disgwylir i Gonsensws ddigwydd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2024. Yn cael ei gynnal bob tair blynedd, mae Consensws yn broses sy’n caniatáu inni rannu ein Cynigion Lefi tair blynedd â chyflogwyr sy’n talu’r Lefi a gofyn eu barn.

Fodd bynnag, ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd yr Adran Addysg (DfE) ei hadolygiad wedi’i drefnu o CITB, a disgwylir i’r canfyddiadau gael eu hadrodd yn 2024.

Oherwydd amseriad Consensws ac Adolygiad yr ITB, penderfynodd CITB gyflwyno cynigion ar gyfer Gorchymyn Lefi blwyddyn i godi incwm lefi yn 2025. Mae angen cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn y pen draw gan y Senedd i wneud y Gorchymyn. Felly, roedd y penderfyniad i gynnig Gorchymyn Lefi blwyddyn yn golygu y byddai Consensws yn cael ei ohirio tan ddechrau 2025. Bydd hyn yn caniatáu i argymhellion sy’n deillio o Adolygiad yr ITB gael eu hystyried ar gyfer y Cynigion Lefi nesaf ar gyfer Gorchymyn Lefi tair blynedd, a fydd nawr yn dechrau yn 2026.


Mae Consensws yn broses bwysig i’n cyflogwyr allu dweud eu dweud ar Gynigion Lefi ac felly, mae’n hanfodol ein bod yn darparu’r holl wybodaeth berthnasol am ein cynlluniau i’w galluogi i wneud hyn. Er mwyn i hynny ddigwydd yn briodol, mae angen inni allu ymateb i’r Adolygiad yr ITB fel y gallwn barhau i gefnogi’r diwydiant i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol nawr ac yn y dyfodol.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am broses Consensws, ewch i dudalen we Ynglŷn â Chonsensws. Byddwn yn rhyddhau mwy o wybodaeth am linellau amser maes o law.