Facebook Pixel
Skip to content

Llwybrau Cymhwysedd

I gysylltu â’r Tîm Safonau, anfonwch e-bost atom: standards.qualifications@citb.co.uk

Sut mae Llwybrau Cymhwysedd o fudd i’r diwydiant adeiladu?

Bydd y Llwybr yn darparu dogfen hawdd ei darllen, a fydd yn rhan o broffil galwedigaethol sy’n dangos y ffyrdd presennol o gael cymwysterau cymhwysedd neu hyfforddiant. Bydd hefyd yn helpu i ganfod darpariaeth hyfforddiant newydd neu ddod o hyd i fylchau mewn hyfforddiant. Bydd canfod bylchau wedyn yn hybu trafodaeth ynghylch sut gellir cau’r ‘bylchau’ a pha gamau y gall y diwydiant a CITB eu cymryd i wneud hynny.

Bydd ymuno â gweithgor Llwybr Cymhwysedd yn golygu gwell dealltwriaeth o’r llwybrau hyfforddi a datblygu sydd ar gael mewn maes adeiladu penodol.

Beth yw Llwybrau Cymhwysedd?

Mae’r ddogfen Llwybrau Cymhwysedd yn nodi sut mae pobl yn ymuno â maes galwedigaethol adeiladu, ac yn datblygu ac yn symud ymlaen yn y maes hwnnw. Mae’n ymdrin â hyfforddiant, cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus ac ati. Drwy adolygu’r Llwybr, gellir dod o hyd i fylchau mewn hyfforddiant a chymwysterau a diweddariadau y mae angen eu gwneud i’r ddarpariaeth bresennol ac y byddai modd mynd i’r afael â nhw drwy ddefnyddio safonau hyfforddi gyda chymorth grant CITB neu hyfforddiant cydnabyddedig arall, neu drwy ddatblygu neu ddiweddaru’r safonau presennol. Gellir adolygu’r Llwybr ochr yn ochr ag adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol neu fel darn o waith ar wahân cyn adolygiad.

Llwybrau Cymhwysedd – Dyma amserlenni arferol gweithgorau (fel darn o waith ar wahân):

  • unwaith y mis drwy Microsoft Teams
  • gall cyfarfodydd bara rhwng un a thair awr (yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw’r maes galwedigaethol)
  • efallai y bydd angen cynnal arolygon, gwneud rhywfaint o waith darllen ymlaen llaw neu adolygu dogfennau ar ôl cyfarfodydd i baratoi ar gyfer y cyfarfod nesaf
  • Ar gyfartaledd, mae’r gwaith o adolygu Llwybrau Cymhwysedd yn cymryd un i ddau fis

Cynigir proses ymgynghori all-lein digidol (drwy e-bost neu arolwg) i bobl sy’n brin o amser ond sydd eisiau bod yn rhan o’r gwaith ymgynghori a dweud eu dweud. Os yw aelodau’r gweithgorau'n dymuno cwrdd wyneb yn wyneb, gellir trefnu hyn hefyd.

Beth mae’r Tîm Safonau’n ei wneud?

Mae’r Tîm Safonau’n cefnogi’r holl waith datblygu ac adolygu drwy wneud y canlynol:

  • cynnal adolygiadau galwedigaethol
  • cynnal gwaith ymchwil cychwynnol
  • trefnu cyfarfodydd
  • hwyluso cyfarfodydd
  • crynhoi nodiadau cyfarfodydd a’r camau gweithredu a nodwyd
  • paratoi dogfennau i aelodau’r gweithgor eu hadolygu
  • casglu adborth
  • gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr yn y diwydiant i sicrhau bod cynnwys y safonau'n diwallu anghenion y diwydiant adeiladu
  • cyhoeddi’r ddogfen Llwybrau Cymhwysedd ar dudalen we CITB sy’n benodol i alwedigaeth

Mae ymroddiad ac angerdd aelodau’r gweithgor yn galluogi CITB i wneud y gwaith Llwybrau Cymhwysedd sy’n helpu’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol – nawr ac yn y dyfodol.

I gysylltu â’r Tîm Safonau, anfonwch e-bost atom: standards.qualifications@citb.co.uk