Facebook Pixel
Skip to content

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

Sut mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol o fudd i’r diwydiant adeiladu?

Ymysg pethau eraill, mae’r Safonau’n sicrhau bod cymwysterau NVQ ac SVQ yn fwy cadarn a chyson. Rhwng 2020 a 2021, roedd dros 70,000 o bobl yn y maes adeiladu ar draws y DU wedi ennill cymhwyster galwedigaethol (NVQ neu SVQ). Er mwyn cael cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), mae’n rhaid i rywun gael NVQ neu SVQ, neu gymhwyster cyfatebol, i ddangos ei fod yn gymwys i’r lefel briodol o ran y sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiad sy’n ofynnol gan gyflogwyr.

Mae’r Safonau’n darparu sylfaen gadarn i gefnogi’r canlynol:

  • Gofynion Iechyd a Diogelwch
  • Cymhwysedd a Gallu
  • Ansawdd ac Effeithlonrwydd
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth
  • Cynaliadwyedd a Chostau

Mae’r Safonau hefyd yn helpu i sicrhau y gellir ysgrifennu rhaglenni hyfforddi i safon gyson. Gellir eu defnyddio hefyd i greu cyflwyniadau diogelwch a helpu Timau Adnoddau Dynol i lunio disgrifiadau swydd i recriwtio pobl newydd i’r sector.

Mae ymroddiad ac angerdd aelodau’r gweithgorau’n galluogi CITB i adolygu’r Safonau sy’n helpu’r diwydiant adeiladu i gael gweithlu medrus, cymwys a chynhwysol – nawr ac yn y dyfodol.

Beth yw Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol?

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn feincnod ar gyfer cymhwysedd, a benderfynir gan ymarferwyr yn y diwydiant. Gellir eu defnyddio i amlinellu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn i rywun gael ei ystyried yn gymwys i wneud pethau fel gosod brics, plastro, toi, gosod dur ac ati.

Defnyddir y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol fel blociau adeiladu ar gyfer datblygu:

  • Cymwysterau NVQ ac SVQ
  • Hyfforddiant
  • Rhaglenni Rheoli a Rheoli Ansawdd
  • Recriwtio
  • Safonau Hyfforddi sy’n Gymwys ar gyfer Grant CITB

CITB sy’n datblygu ac yn cynnal y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar ran y diwydiant adeiladu. I gael rhagor o wybodaeth amdanynt ewch i’r Dudalen Wybodaeth am y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Dyma amserlenni arferol y gweithgorau:

  • unwaith y mis drwy Microsoft Teams – pennir hyn gan aelodau’r gweithgorau
  • gall y cyfarfodydd bara rhwng dwy a phedair awr – pennir hyn gan aelodau’r gweithgorau
  • efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith darllen ymlaen llaw neu adolygu dogfennau ar ôl cyfarfodydd i baratoi ar gyfer y cyfarfod nesaf
  • bydd y gwaith o adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfartaledd yn cymryd rhwng tri a naw mis, yn dibynnu ar faint a chwmpas

Cynigir proses ymgynghori all-lein (drwy e-bost neu arolwg) i bobl sy’n brin o amser ond sydd eisiau bod yn rhan o’r gwaith ymgynghori a dweud eu dweud. Os yw aelodau’r gweithgorau’n dymuno cwrdd wyneb yn wyneb, gellir trefnu hyn hefyd.

Beth mae’r Tîm Safonau’n ei wneud?

Gan ei bod yn broses reoledig sydd wedi’i strwythuro’n dda, gyda nifer o gerrig milltir, mae’r Tîm Safonau’n gwneud y canlynol i hwyluso’r holl waith datblygu ac adolygu:

  • cynnal adolygiadau galwedigaethol
  • cynnal gwaith ymchwil cychwynnol
  • trefnu a hwyluso cyfarfodydd
  • crynhoi nodiadau cyfarfodydd, adborth a chamau gweithredu
  • paratoi dogfennau i aelodau’r gweithgor eu hadolygu
  • cysylltu â’r rheoleiddwyr ynghylch y broses drwyddi draw
  • gweithio’n agos gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid yn y diwydiant i sicrhau bod cynnwys y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu

I gysylltu â’r Tîm Safonau, anfonwch e-bost atom: standards.qualifications@citb.co.uk

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth