Rôl Cyfarwyddwr ar gyfer Iechyd a Diogelwch
Mae’r cwrs rhyngweithiol undydd hwn wedi’i gynllunio ar gyfer cyfarwyddwyr cwmni ac uwch reolwyr sy’n weithgar mewn rôl strategol iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd adeiledig gyda’r nod o gydnabod dyletswyddau gofal cyfarwyddwyr a goblygiadau peidio â chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Ar y dudalen hon:
Canfod cwrs
Defnyddiwch ein adnodd chwilio am leoliad cwrs i ddod o hyd i ddarparwr cwrs yn agos atoch chi.
Trosolwg
Bydd y cwrs yn rhoi crynodeb o sut i hyrwyddo diwylliant sefydliadol cadarnhaol ar gyfer iechyd a diogelwch. Bydd ymarferion grŵp trwy gydol y dydd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr drafod eu barn am iechyd a diogelwch a’u cyfrifoldebau mewn fforwm agored.
Nod y cwrs yw helpu cyfarwyddwyr i:
- cydnabod costau/goblygiadau moesol, economaidd a chyfreithiol penderfyniadau a wneir yn ystafell y bwrdd a allai wneud eu busnes yn atebol
- deall arwyddocâd rheolaeth strategol ar risgiau
- gwerthfawrogi ystod y canlyniadau o fethu â rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol
- deall pwysigrwydd deiliaid dyletswydd cymwys, ac arwyddocâd eu cydweithrediad, cyfathrebu a chydlynu iechyd a diogelwch ar brosiectau
- cydnabod yr angen i benodi cymorth iechyd a diogelwch cymwys, a chyfyngiadau penodiad o'r fath, a
- nodi'r offer sylfaenol i gyflwyno diwylliant iechyd a diogelwch rhagweithiol i sefydliad, a manteision y dull hwn.
Gofynion mynediad
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr sy’n weithgar mewn rôl strategol iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd adeiledig o unrhyw faint sefydliadol mewn adeiladu, peirianneg sifil neu grefftau perthynol, ac felly dylid ystyried hyn cyn cofrestru cynrychiolwyr ar y cwrs hwn.
Enghreifftiau o rolau perthnasol (ddim yn gyflawn):
- Cyfarwyddwr Ariannol/Gweithrediadau
- Uwch syrfëwr meintiau (QS)
- QS Preifat
- Prif ddylunydd
- Uwch/prif beiriannydd
- Ysgrifennydd cwmni
- Rheolwr contractau
- Uwch reolwr prosiect
- Cyfarwyddwr anweithredol
Rhagofynion
Rhaid i gynrychiolwyr allu dangos y canlynol:
Naill ai wedi cwblhau cwrs Rôl Cyfarwyddwr CITB ar gyfer Iechyd a Diogelwch yn flaenorol
neu
â gwybodaeth ymarferol o’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ganlynol gan ragweld y bydd cynnwys y cwrs ac asesiad diwedd cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr ystyried y deddfwriaethau hyn yng nghyd-destun rôl a chyfrifoldeb cyfarwyddwr:
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974
- Deddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1969
- Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) (CDM) 2015
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
Argymhellir bod cynrychiolwyr yn:
Cwblhau’r e-ddysgu cyn y cwrs. Mae cwblhau'r gydran hon yn llwyddiannus yn cynhyrchu tystysgrif ddigidol, y mae'n rhaid anfon copi ohoni i'r Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy (ATO) o leiaf 24 awr cyn dechrau'r prif gwrs a gall fod yn destun archwiliad. Rhaid i'r ATO sicrhau bod copïau o dystysgrifau'n cael eu cadw at ddibenion archwilio a bod y ffurflen canlyniadau cwrs yn cael ei diweddaru'n unol â hynny.
Ardystiad
Mae ardystiad ar gyfer y cwrs hwn yn ddilys am 5 mlynedd. I aros yn ardystiedig yn y maes hwn, bydd angen i chi ail-sefyll y cwrs cyn y dyddiad dod i ben.
Dysgwch fwy am gael eich cymeradwyo i gyflwyno’r cwrs hwn.
Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael yn Rheolau’r Cynllun.
Canfod cwrs
Defnyddiwch ein adnodd chwilio am leoliad cwrs i ddod o hyd i ddarparwr cwrs yn agos atoch chi.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth