Facebook Pixel
Skip to content

Beth sydd ar yr agenda yng Nghynadleddau Sgiliau a Hyfforddiant CITB?

Mae Cynadleddau Sgiliau a Hyfforddiant CITB yng Nghaerdydd a Llundain yn prysur agosáu – ac ni ddylid eu colli!

Mae gan gyflogwyr adeiladu a darparwyr hyfforddiant amser i gofrestru am ddim cyn y digwyddiadau undydd yng Nghaerdydd ddydd Iau 23 Ionawr ac yn Llundain ddydd Iau 6 Chwefror.

Bydd y cynadleddau yn rhannu gwybodaeth a diweddariadau allweddol, yn trafod heriau ac yn amlinellu sut y gall y diwydiant adeiladu weithio tuag at leihau'r bwlch sgiliau.

Ymhlith y sesiynau sydd ar gael i fynychwyr, bydd:

  • Diweddariad y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (Caerdydd a Llundain)
  • 'Sut i Arwain' ar gyfer Cwmnïau Adeiladu – Lefi, Grantiau a Phrentisiaid (Caerdydd a Llundain)
  • Y Ddeddf Caffael – beth sydd angen i chi ei wybod? (Caerdydd a Llundain)
  • CITB - Cyflawni ein Strategaeth (Caerdydd a Llundain)
  • Darparu Gwerth Cymdeithasol drwy'r Gadwyn Gyflenwi (Caerdydd a Llundain)
  • Cefnogi'r Diwydiant gyda Newydd-ddyfodiaid (Caerdydd a Llundain)
  • Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Tân mewn Adeiladu (Caerdydd)
  • Dyfodol Adeiladu (Caerdydd)
  • Iechyd Meddwl a Niwroamrywiaeth mewn Adeiladu (Caerdydd)
  • Cynlluniau Sgiliau Sector (Llundain)
  • Datrys Heriau Pobl: Strategaethau i Leihau Risg a Hybu Elw (Llundain)

Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu derbyn cymorth un i un ar gael mynediad at gyllid a gwasanaethau CITB, gan gynnwys menter newydd – y Rhwydwaith Cyflogwr.

Bydd darparwyr hyfforddiant yn cael cyfle i glywed am gyfleoedd mawr y diwydiant a chwrdd â chwmnïau adeiladu a ffederasiynau masnach y diwydiant.

Gall cyflogwyr adeiladu a darparwyr hyfforddiant gofrestru eu lle am ddim, yma:

Caerdydd - Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB Cymru 2025

Llundain - Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB Llundain 2025

""

""

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth