Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 104 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

Mae CITB yn helpu i fynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus, Asbestos Boss Ltd

Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Safonau Masnach Stockport a’r HSE, mae Rheolwr y DU ar gyfer Asbestos Boss Ltd, Daniel Cockcroft, wedi’i ddwyn o flaen ei well gyda chymorth Tîm Ansawdd a Safonau CITB. Cafodd Safonau Masnach Stockport a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) eu hysbysu am y masnachwyr twyllodrus am y tro cyntaf yn ôl ym mis Medi 2021, pan symudodd y cwmni’r bwrdd insiwleiddio asbestos o garej ddomestig, heb fawr ddim mesurau rheoli, os o gwbl. Datgelodd yr ymchwiliad sawl achos tebyg yn ddiweddarach, gydag un achos yn cael ei ystyried o ansawdd mor wael fel bod perchnogion y safle wedi derbyn dyfynbrisiau hyd at £64,000 i'w unioni.

CITB i fuddsoddi dros £100m mewn grantiau i hyfforddi gweithwyr adeiladu eleni

Mae mwy na £100miliwn mewn grantiau yn cael eu buddsoddi gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) i helpu gweithwyr adeiladu i gael hyfforddiant a chael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. O 1 Ebrill 2023, mae CITB yn dyblu cyfraddau grant ar gyfer cyrsiau byr i helpu busnesau i gynnig mwy o hyfforddiant a chefnogi cyflogwyr sy’n darparu hyfforddiant sgiliau craidd i’w timau yng nghanol costau cynyddol.

Sut rydym yn cefnogi Prentisiaid yr Alban

Mae hi’n Wythnos Prentisiaethau’r Alban – ac mae ein Cyfarwyddwr Ymgysylltu ar gyfer yr Alban Ian Hughes wedi bod yn brysur yn rhannu manylion am waith ei dîm gyda phrentisiaid a chyflogwyr i gael y sgiliau gorau ar gyfer yr Alban.

Cylchlythyr CITB Cymru: Cynnydd o 83% mewn cyllid sgiliau a hyfforddiant

Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru. Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.

Helpu myfyrwyr Lefel T Ar y Safle i gael swyddi adeiladu

Mae’r CITB a phartneriaid (DfE, IFATE, NOCN, Gatsby Foundation a’r Association of Colleges (AOC)) yn treialu ffordd newydd i fyfyrwyr Lefel T ddangos cymhwysedd galwedigaethol llawn unwaith y byddant mewn gwaith.

Prentisiaid yn siarad â phodlediad am eu profiadau ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni, rydym wedi ymuno â’r podlediad Construction Talk i ddod â phrofiadau prentisiaid i chi a rhywfaint o fewnwelediad i’r diwydiant gan ein Cyfarwyddwr Ymgysylltu dros Gymru, Julia Stevens.

Mae SkillBuild yn dychwelyd, wrth i'r galw aruthrol am sgiliau adeiladu barhau

Mae’r gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf yn y DU yn dychwelyd, gyda chofrestriad bellach ar agor ar gyfer SkillBuild 2023.

Colegau addysg bellach yn ymuno â CITB i wella darpariaeth a chymorth ar draws y sector adeiladu

Mae ColegauCymru ar ran ein haelodau heddiw wedi arwyddo Cytundeb gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, CITB, i gefnogi darpariaeth cymwysterau adeiladu a chefnogaeth i ddysgwyr, prentisiaid a chyflogwyr ledled Cymru.

Galw am weithwyr adeiladu yn uchel er gwaetha'r ansicrwydd economaidd

Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen bron i 225,000 o weithwyr ychwanegol i fodloni galw adeiladu’r DU erbyn 2027.

Mae angen 9,100 o weithwyr adeiladu ychwanegol yng Nghymru erbyn 2027

Yn erbyn cefndir o her economaidd, costau deunyddiau a llafur cynyddol, mae ffigurau newydd gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu y bydd angen 9,100 o weithwyr ychwanegol i fodloni’r galw adeiladu yng Nghymru erbyn 2027.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth