Cylchlythyr CITB Cymru: Atgyfnerthu ein hymrwymiad i’r Gymraeg
Croeso i ddiweddariad chwarterol CITB Cymru.
Dyma newyddion am ein gwaith a fydd yn eich helpu i gael y gorau o’n gwasanaethau ledled Cymru.

Atgyfnerthu ein hymrwymiad i’r Gymraeg
Gwella mynediad at wasanaethau a chynhyrchion CITB dwyieithog yw ein nod ers diweddaru ein cynllun iaith Gymraeg ar 1af Mawrth 2023. Mae’r cynllun yn cynrychioli ein hymrwymiad i ganiatáu i bawb sy’n cyfathrebu â ni i allu gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg, os dymunant.
Mewn ymateb i hyn, rydym wedi creu Profion ID&A ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf (mwy isod). Mae’r platfform trefnu hefyd ar gael yn y Gymraeg i gefnogi hyn.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cynyddu cynrychiolaeth ‘y Gymraeg’ ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â gweithio gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant i gynnal digwyddiadau dwyieithog yng Nghymru megis SkillBuild ac Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
Rydym hefyd yn sicrhau bod niferoedd priodol o siaradwyr Cymraeg o fewn ein gweithlu, fel y gall defnyddwyr gwasanaeth arfer dewis iaith ar unrhyw adeg, ar unrhyw lefel.
Mae’r gwasanaethau hyn yn rhan o’n gwaith i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, a’n hymrwymiad i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae blog Helen Jones, Rheolwr y Gymraeg CITB, ‘Cymraeg yn CITB’, yn amlinellu cwmpas llawn ein gwaith.
Cynllun Cymru 2023-24 yn rhoi cyflogwyr wrth y llyw
Mae ein Cynllun Cymru yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod gan gynnwys:
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, rhanddeiliaid diwydiant a phrifysgolion i ddatblygu Prentisiaethau Adeiladu lefel gradd mewn Peirianneg Sifil, Tirfesur a Rheoli Adeiladu.
- Cyflwyno dau Gynghorydd Cymorth i newydd-ddyfodiaid.
- Ehangu fforwm arfer gorau Cymru gyfan, y ‘Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol’.
Dros 380k wedi ei ddyfarnu i fusnesau Cymreig ers mis Ionawr
Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn dyfarnwyd £365,697 i 103 o geisiadau cronfa Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer busnesau bach. Cymeradwywyd dau gais cronfa ganolig, gwerth £22,510.
 diddordeb mewn ariannu? Cysylltwch ⠑ch cynghorydd ymgysylltu CITB lleol.
Dros 250 o ferched ysgol yn mynychu digwyddiadau Merched mewn Adeiladu
Daeth dros 250 o ferched ysgol i dri digwyddiad yng Ngorffennaf – yn Abertawe, Caerdydd a Llangefni – a gynhaliwyd i ddenu merched ifanc i’r diwydiant adeiladu.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys sesiynau dan arweiniad cyflogwyr ar dechnoleg dronau, her adeiladu gynaliadwy a gweithio ar uchder gan ddefnyddio penset VR.
Gwaith yn mynd yn ei flaen ar brentisiaethau gradd mewn adeiladu
Mae gwaith i ddatblygu a chynnig prentisiaethau Gradd mewn adeiladu yng Nghymru erbyn hydref 2024 wedi dechrau Diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, HEFCW, tair o Brifysgolion Cymru a ninnau.
Mae’r prentisiaethau gradd newydd yn cynnwys Peirianneg Sifil, Tirfesur Meintiau, Tirfesur Adeiladau, Tirfesur Eiddo (Eiddo Tiriog) a Rheoli Adeiladu.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymddygiad ar gyfer pob galwedigaeth yn cychwyn ar 14eg Awst a bydd ar agor tan ddiwedd mis Medi. Byddwn yn eich diweddaru ar gynnydd.

Prawf ID&A CITB ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol wedi’i ddiweddaru
Ar 27ain Mehefin 2023, lansiwyd y prawf ID&A CITB ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol wedi’i ddiweddaru. Mae’r newidiadau wedi’u gwneud i sicrhau bod y prawf yn parhau i fod yn berthnasol, yn addas i’r diben, ac yn adlewyrchu newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth, arferion gwaith a thechnoleg newydd yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r deunyddiau adolygu y mae ymgeiswyr yn eu defnyddio i’w hadolygu ar gyfer y prawf wedi’u diweddaru i gyd-fynd â’r newidiadau hyn.
Oherwydd maint y cynnwys newydd, rydym yn argymell yn gryf bod pob ymgeisydd yn caniatáu digon o amser i adolygu cyn eu prawf, er mwyn rhoi’r siawns orau iddynt lwyddo.
Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau, a sut i drefnu prawf ar gael ar wefan CITB.
Nodyn atgoffa ynghylch grantiau prentisiaeth a ffurflenni Lefi
Cyflogwyr! Peidiwch ag anghofio cofrestru eich prentisiaid blwyddyn cyntaf i hawlio eu grant presenoldeb llawn ers Medi 2022.
Hefyd, os nad ydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Lefi, gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer hawliadau grant. Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich ffurflen lefi, cysylltwch â’ch cynghorydd ymgysylltu CITB lleol.

Rhagbrofion rhanbarthol yn cael eu cynnal ar gyfer “Gemau Olympaidd Adeiladu’r DU”
Cynhaliwyd cystadlaethau Rhanbarthol SkillBuild Cymru yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe a Choleg Menai, Llangefni ym mis Mehefin.
Mae partneriaeth CITB Cymru ag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau Cymru yn galluogi prentisiaid a dysgwyr i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru i baratoi ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol SkillBuild, a ddisgrifir fel “Gemau Olympaidd Adeiladu’r DU”
Y rheiny a gyrhaeddodd Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild a fydd yn cystadlu yn Arena Marshall yn Milton Keynes rhwng 21ain a 23ain Tachwedd 2023 yw:
- Gwaith Coed: Osian James - Coleg Ceredigion, Daniel Morgans - Coleg Ceredigion.
- Saernïaeth: Steffan Thomas - Coleg Ceredigion, Josh Turnbull-Leask – Y Coleg Merthyr Tudful.
- Plastro: Harry Sutherland - Grŵp Llandrillo Menai
- Teilsio Llawr: Aram Elbadian – Coleg Caerdydd a’r Fro
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.
“Mae sgiliau adeiladu yn caniatáu ichi weithio ledled y byd”
Mae’r saer maen Jon Langstone wedi gwneud llawer yn ystod ei yrfa. Mae astudiaeth achos Jon a gefnogir gan CITB yn dangos sut mae sgiliau adeiladu yn darparu cyfleoedd byd-eang.
Dysgu sgiliau gwyrdd yn Iwerddon
Ym mis Ebrill, teithiodd Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru, i Iwerddon gyda chydweithwyr o Goleg y Cymoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i weld sut mae hyfforddiant sero net o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu yn y Campws Hyfforddiant Adeiladu Cenedlaethol a gan Fwrdd Addysg a Hyfforddiant Limerick a Clare. Diolch i Goleg y Cymoedd am drefnu’r ymweliad.

Newyddion yn gryno
- Ym mis Ebrill, rhoddodd Suzi Perkins, Cynghorydd Ymgysylltu CITB, De-Ddwyrain Cymru, ddiweddariad i waith Llysgenhadon y Sefydliad Siartredig Adeiladu yng nghyfarfod gwaith Llysgenhadon STEM Am Amdeiladu, Michael Yam, Llywydd, a Caroline Gumble, Prif Swyddog Gweithredol.
- Ym mis Mehefin, cymerodd Helen Murray, Cynghorydd Ymgysylltu CITB Cymru, De-Orllewin Cymru, ran mewn cyfarfod bord gron ar sgiliau ar gyfer y dyfodol, dan arweiniad Insider Media.
- Yn ein cylchlythyr diwethaf fe wnaethom hysbysebu am gyfieithydd newydd, rydym yn falch iawn o groesawu Bethan Boland i CITB Cymru.
Dyddiadau i’ch dyddiadur
Awst 15: Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru yn cynnal diwrnod agored yn ei Hacademi Sgaffaldiau, bydd cynghorwyr CITB ar gael i siarad am gyfleoedd ariannu yn y digwyddiad cadwyn gyflenwi hwn.
Tachwedd: Cynhelir ein digwyddiad Gweld Eich Safle blynyddol.
Mae croeso mawr i’ch adborth ar y diweddariad hwn, rhowch wybod i ni beth yr hoffech ei ddarllen.
Rydym am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi gan CITB – cofrestrwch neu rheolwch eich tanysgrifiadau yma.
Dymuniadau gorau
Tîm CITB Cymru Wales
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth