Facebook Pixel
Skip to content

Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB yn dod i Gymru

Mae’n bleser gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) gynnal ei Gynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant nesaf yng Nghymru ar Ionawr 23ain.

Yn dilyn llwyddiant Cynadleddau Sgiliau a Hyfforddiant CITB ym Manceinion a’r Alban yn 2024, y digwyddiad undydd hwn yng Nghaerdydd yw’r cam diweddaraf mewn rhaglen ymgysylltu wedi’i hadfywio ar gyfer cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant gan dîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB. Bydd tîm gweithredol CITB yno i gwrdd â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid eraill y diwydiant.

Bydd y gynhadledd yn rhannu gwybodaeth allweddol a diweddariadau, yn trafod heriau, ac yn amlinellu sut y gall y diwydiant adeiladu weithio tuag at gau’r bwlch sgiliau.

Gall cwmnïau adeiladu a chyflogwyr ddarganfod mwy am bynciau llosg fel y Ddeddf Diogelwch Adeiladau a Gwerth Cymdeithasol, wrth dderbyn cymorth un-i-un ar gyrchu cyllid a gwasanaethau CITB, gan gynnwys y fenter newydd, Rhwydwaith Cyflogwyr.

Yn y cyfamser, bydd darparwyr hyfforddiant yn cael y cyfle i glywed am gyfleoedd mawr y diwydiant a chwrdd â chwmnïau adeiladu a ffederasiynau masnach y diwydiant.

Dywedodd Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru, CITB:

“Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi y bydd Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB yn dod i Gaerdydd ym mis Ionawr. Mae’n gyfle gwych i gwmnïau adeiladu ddarganfod mwy am yr hyfforddiant a’r cyllid sydd ar gael, ac i drafod sut y gallwn fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau gyda’n gilydd.

“Rydym hefyd yn edrych i gynnwys mwy o ddarparwyr hyfforddiant yn y sgwrs bwysig hon, gan gryfhau ein rhwydwaith a chreu dyfodol mwy cadarn i bawb sy’n cymryd rhan."

Cynhelir Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant Cymru yng Ngwesty Dewi Sant Voco, Caerdydd ar ddydd Iau, 23ain Ionawr 2025.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, cliciwch yma: Cynhadledd Sgiliau a Hyfforddiant CITB Cymru 2025

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth