Cystadleuaeth Gweithredwr Peiriannau’r Flwyddyn y DU yn dychwelyd
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chylchgrawn Gweithredwyr Peiriannau’r DU (UKPO) heddiw yn cyhoeddi bod cystadleuaeth flynyddol ‘Gweithredwr Peiriannau’r Flwyddyn y DU’ (UKPOOTY) yn dychwelyd. Bydd y digwyddiad, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, yn dathlu ei drydedd rownd derfynol yn olynol yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) CITB yn Bircham Newton, Norfolk.
Bydd cystadleuaeth UKPOOTY eleni – y digwyddiad gweithredwr peiriannau annibynnol mwyaf yn y DU – yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf a bydd yn cynnwys deg her unigryw i weithredwyr peiriannau arddangos eu sgiliau. Bydd enillydd y cyfan yn casglu’r wobr fawr o £10,000, gyda gwobrau pellach yn cael eu dyfarnu i’r rhai a ddaeth yn ail, yn ogystal ag enillwyr pob her yn cael tlws a £250. Mae’r digwyddiad yn dod â’r cystadleuwyr gweithredwyr peiriannau gorau, gweithgynhyrchwyr byd-eang, llogwyr peiriannau a chontractwyr cenedlaethol a rhanbarthol ynghyd. Mae gweithwyr proffesiynol y diwydiant a rhanddeiliaid, y rhai sydd am ymuno â’r diwydiant, a’u teuluoedd yn mynychu’r ‘ŵyl adeiladu’ hefyd.
Cynhelir y deg her categori unigryw ar yr un pryd i ddod o hyd i enillydd priodol, ac mae'r heriau'n cynnwys: Cloddwyr (Excavators), Cloddwyr Bach (Mini-Excavators), Dadlwythwyr Safle (Site Dumpers), Cloddwyr Llwytho (Backhoes), Dadlwythwyr Cymalog (Articulated Dump Trucks), Cylchdroyddion sy’n Tiltio (Tiltrotators), Crafangau Gafael (Grapple Grabs), Ychwanegiadau Fforch (Fork Attachments), Teirw Dur (Dozers), a Llwythwyr ar Olwynion (Wheeled Loaders). Nid oes unrhyw gystadleuaeth gweithredwr safle arall yn y DU yn cynnig amrywiaeth o frandiau i'r rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol gystadlu arnynt.
Mae gweithwyr peiriannau yn un o'r galwedigaethau mwyaf poblogaidd yn y diwydiant adeiladu. Mae ymchwil diweddar gan CITB yn amcangyfrif bod angen dros 2,000 yn fwy o weithredwyr peiriannau ar y sector dros y pedair blynedd nesaf i gwrdd â’r twf adeiladu a ragwelir.
Dywedodd Kirsty Evans, Pennaeth Gweithredol NCC: “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal cystadleuaeth Gweithredwyr Peiriannau’r DU eto yn ein Coleg Adeiladu Cenedlaethol yn Bircham Newton.
“Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn agored i bawb ei fynychu – o weithredwyr peiriannau profiadol sy’n arddangos eu sgiliau, cyflogwyr adeiladu sydd eisiau mynychu a chefnogi, y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y sector, neu hyd yn oed pobl sy’n chwilio am ddiwrnod allan llawn hwyl. Mae’n gyfle gwych i ddangos cefnogaeth i’r sector peiriannau ac arddangos y cyfleoedd gwych a’r hyfforddiant o ansawdd uchel sydd ar gael i weithredwyr peiriannau yn ogystal â phrentisiaid newydd.”
Dywedodd Jeff Schofield, Cyfarwyddwr Cylchgrawn UK Plant Operators: “Mae UKPO Magazine unwaith eto yn falch iawn o weithio gyda CITB i gyflwyno’r digwyddiad adeiladu sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae diwrnod y rowndiau terfynol yn rhoi'r olygfa gyda chymaint o heriau gweithio byw, demos a sylwebaeth fyw. Gyda’r niferoedd sy’n mynychu’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, hyderwn y bydd y digwyddiad yn rhoi’r ysbrydoliaeth i lawer i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu, taith sy’n dechrau i lawer drwy hyfforddi ac uwchsgilio gyda CITB.”
Mae diwrnod y rowndiau terfynol yn ddathliad o adeiladu, a bydd gan y brandiau sy'n noddi'r heriau stondinau i groesawu a rhyngweithio ag ymwelwyr, gan helpu i amlygu'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.
Mae cofrestriadau i gystadlu yng Ngweithredwr Peiriannau’r Flwyddyn y DU ar agor o heddiw, 27 Chwefror tan 13 Mehefin 2025. Cofrestrwch ar-lein yma.
Bydd tocynnau ymwelwyr ar gyfer UKPOOTY ar gael ar Eventbrite o 4ydd o Ebrill i 12fed o Orffennaf.
Hoffai CITB ddiolch i’w holl noddwyr, cefnogwyr a phartneriaid strategol cystadleuaeth Gweithredwr Peiriannau’r Flwyddyn y DU eleni.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth