Facebook Pixel
Skip to content

Digwyddiadau hyfforddiant a chymhwysedd peiriannau yn dod yn fuan

Mae CITB a Sefydliad Cynrychiolwyr y Sector Peiriannau (PSRO) yn cyd-gynnal cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo hyfforddiant a chymhwysedd ar gyfer galwedigaethau peiriannau.

Bydd y fforymau, yn benodol ar gyfer cyflogwyr cofrestredig CITB, yn trafod sut mae hyfforddiant priodol ac effeithiol yn cefnogi gofynion cymhwysedd y diwydiant ar gyfer sicrhau sector diogel ac effeithlon.

Crëwyd y PSRO fel partneriaeth o saith o’r ffederasiynau adeiladu blaenllaw sy’n ymwneud â gweithrediadau peiriannau i weithredu fel llais y diwydiant ar gyfer safonau sy’n seiliedig ar sgiliau a gofynion ardystio.

Y rhain yw Build UK, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA),Cymdeithas Llogi Peiriannau Adeiladu (CPA), Ffederasiwn Arbenigwyr Peilio (FPS), Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF), Ffederasiwn Cenedlaethol Contractwyr Dymchwel (NFDC), a Chymdeithas Perchnogion Peiriannau’r Alban (SPOA).

Mae CITB a’r PSRO wedi bod yn gweithio’n agos i gyflwyno safonau hyfforddi cwrs byr ar gyfer categorïau peiriannau sy’n adlewyrchu’r gofynion a’r cyfrifoldebau cynyddol ar gyfer gweithredwyr peiriannau, a fydd ymhlith y prif bynciau trafod.

Bydd digwyddiadau yn trafod rôl CITB fel corff gosod safonau a rôl PSRO mewn perthynas â chynlluniau cardiau. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar:

  • Y safonau hyfforddi peiriannau y mae CITB wedi’u cyflwyno hyd yma a’r rheini y maent yn bwriadu eu cyflwyno
  • Datblygu fframwaith cymhwysedd ar gyfer peiriannau
  • Prentisiaethau peiriannau

Bydd cyflogwyr yn cael y cyfle i drafod gofynion hyfforddiant a chymhwysedd yn y sector peiriannau, gan gynnwys y manteision o gael gweithlu cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n llawn.

Bydd y digwyddiadau hyfforddiant a chymhwysedd peiriannau hyn yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol (cliciwch i gofrestru am ddim):

Bydd pob fforwm yn cael ei gynnal o 10am tan 1pm. Bydd cinio bwffe yn cael ei ddarparu, gan roi cyfle i gyflogwyr rwydweithio gyda mynychwyr eraill.

Mae gweminar ar-lein hefyd ar gael i gyflogwyr yng Nghymru:

Mae cofrestru ar gyfer pob digwyddiad ar sail y cyntaf i'r felin ac yn gyfyngedig i gyflogwyr cofrestredig CITB.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth