Facebook Pixel
Skip to content

Hyfforddiant adeiladu yn haws ei gyrchu gyda Rhwydweithiau Cyflogwyr CITB estynedig

  • Mae gan fenter Rhwydweithiau Cyflogwyr – sy'n gwneud hyfforddiant a chymorth ariannol yn haws i gyflogwyr lleol gael mynediad iddynt - 33 o grwpiau ledled Prydain Fawr erbyn hyn.
  • Mae dros 1,000 o fusnesau eisoes wedi elwa o'r cynllun peilot Rhwydweithiau Cyflogwyr hyd yma.
  • Dywedodd 86% o gyflogwyr ei bod yn haws cael mynediad at hyfforddiant drwy'r Rhwydweithiau.

Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi gorffen cyflwyno Rhwydweithiau Cyflogwyr ledled Prydain Fawr. Nod y fenter hon, sydd wedi bod yn rhedeg fel peilot ers 2022, yw sicrhau bod penderfyniadau cyllido yn cael eu harwain gan gyflogwyr a'u cefnogi gan CITB, a thrwy hynny ddiwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn well.

Mae Rhwydweithiau Cyflogwyr yn fenter a sefydlwyd ac a ariennir gan CITB sy'n cynnig hyfforddiant pwrpasol, hawdd ei gyrchu a chefnogaeth ariannol i gyflogwyr lleol. Maent yn rhoi sianel uniongyrchol i gyflogwyr gyfathrebu eu hanghenion hyfforddi a chynghori ar sut y dylid blaenoriaethu a dyrannu cyllid yn eu hardal leol. Yn ogystal, maent yn galluogi CITB i fod yn fwy ymatebol i anghenion y diwydiant ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Drwy annog mwy o ddeialog gyda chyflogwyr a chael gwared ar rwystrau i ymgysylltu â hyfforddiant, mae'r Rhwydweithiau Cyflogwyr yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau ac adeiladu dyfodol cryfach i'r diwydiant.

Yn dilyn y cam peilot yn 2022, mae Rhwydweithiau Cyflogwyr wedi'u cyflwyno ledled Prydain Fawr oherwydd eu llwyddiant wrth helpu mwy o gyflogwyr i hyfforddi a chefnogi eu gweithlu. Yn y peilot yn unig, mae dros 1,000 o fusnesau wedi elwa o'r Rhwydweithiau Cyflogwyr, gydag 86% o gyflogwyr ei bod yn haws cael mynediad at hyfforddiant drwy'r Rhwydweithiau.

Dywedodd Deb Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â'r Cenhedloedd, CITB:

"Mae'n hanfodol bod gennym afael gadarn ar ba sgiliau sydd eu hangen a lle mae eu hangen ledled y wlad. Mae Rhwydweithiau Cyflogwyr wedi bod yn hynod lwyddiannus i gyflogwyr a CITB ac rydym bellach wedi cyflwyno 33 ar draws Prydain Fawr.

"Mae galw cynyddol am waith adeiladu yn y DU, ac mae cyflogwyr adeiladu yn amlwg yn ymwybodol o'r cyfle a'r angen am hyfforddiant, gydag 80% o gyflogwyr yn nodi eu bod yn bwriadu cynyddu eu hymdrechion hyfforddi yn y dyfodol. Rydyn ni bob amser yn ymdrechu i wella ein gwasanaethau ac ymgorffori diwylliant o ansawdd i'r hyn rydyn ni'n ei wneud - mae Rhwydweithiau Cyflogwyr yn enghraifft wych o hyn ac yn ffurfio rhan o raglen ddatblygu ehangach."

Dywedodd Tony Hateley, Rheolwr Gyfarwyddwr, T H Developments UK Ltd:

"Yn T H Developments rydym wedi cydnabod ers amser maith bwysigrwydd hyfforddi ac uwchsgilio staff. Gyda Rhwydweithiau Cyflogwyr CITB, rydym wedi llwyddo i sicrhau hyfforddiant i'n staff gyda darparwr hyfforddiant newydd o fewn amser arweiniol byr iawn. Byddwn yn argymell unrhyw aelod o CITB i gysylltu â'u cynghorydd cyn gynted â phosibl a gwneud defnydd o'r offeryn aruthrol hwn."

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth