Facebook Pixel
Skip to content

Katherine Evans o Bold as Brass, Caerdydd sydd yn y brig yn y 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu eleni

Mae'n bleser gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) gyhoeddi'r enillwyr Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2024. Llongyfarchiadau i Katherine Evans o Bold as Brass, Caerdydd a enillodd Wobr yr Arwr Lleol Cymru yn ogystal â'r Wobr Mwyaf Dylanwadol yn Gyffredinol.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, sy'n dathlu ac yn anrhydeddu'r unigolion rhagorol yn y sector, ar 30 o Fedi yng Ngwesty Burlington yn Birmingham ar ddechrau Wythnos Adeiladu'r DU. Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo gan Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr (NFB), ac roedd yn arddangos y menywod dylanwadol sy'n gweithio ym maes adeiladu, gan wneud modelau rôl benywaidd ac anneuaidd yn fwy gweladwy a hygyrch i ysbrydoli eraill, a dangos bod y sector yn agored i bawb.

Enillwyr y categori oedd:

Arwyr Lleol

Menywod eithriadol o naw rhanbarth gwahanol ar draws y Deyrnas Unedig sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar lefel weithredol neu ar safle ym maes adeiladu

  • Canolbarth Lloegr: Kayleigh Merritt, Winvic Construction Ltd
  • Dwyrain Lloegr: Suzanne Moss, Ringway Infrastructure Services
  • De Orllewin: Danielle Haskings, MCS
  • Gogledd Ddwyrain: Denise Cherry, YIRTG
  • Gogledd Orllewin: Melissa Fazackerley, Dimension H&S Ltd
  • De Ddwyrain: Chloe Xidhas, Ymgynghorydd Annibynnol
  • Yr Alban: Emily Carr, Kier Construction
  • Gogledd Iwerddon: Melanie Dawson, Origin7
  • Cymru: Katherine Evans, Bold as Brass

Menywod ar yr Offer

I'r rhai sy'n gweithio mewn crefft benodol o fewn y diwydiant sydd wedi neu sy’n ymdrechu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu

  • Nettie Taylor, Eliza Tay Lady Decorators

Y Dylanwadwr

I'r rhai sydd wedi cael effaith sylweddol a gwirioneddol ar lefel sefydliadol neu genedlaethol o fewn sefydliad mewn un o dri is-gategori (cleient, dylunydd a chontractwr)

  • Dylunydd: Sam May, WSP
  • Cleient: Liz McDermott, QuickFix Profiles
  • Contractwr: Carolyn Jay, Ringway Infrastructure Services

Cynghreiriaid

Yr unig gategori sy'n cydnabod pobl, waeth beth fo'u rhyw, o fewn y diwydiant sy'n gweithredu fel dylanwadwyr allweddol wrth gefnogi cynhwysiant a newid

  • Alice Brookes, On the Tools
  • Claire Brown, Turner & Townsend
  • Clare Yelland, Friel
  • Gail Farley, HMS Works
  • Jason Newton, Redrow NW
  • Joanna Strahan, C2C Group
  • Lade Ogunlaja, Turner & Townsend
  • Magdalena Stefanick, Tilbury Douglas
  • Tony O'Sullivan, CPI Mortars Ltd
  • Kelly Cartwright, Core Recruiter

Un i'w Wylio

Ar gyfer newydd-ddyfodiaid y diwydiant sy'n arwain y ffordd o ran hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ecwiti

  • Kynleigh Parker, Lovell Partnerships
Cyhoeddwyd Katherine Evans o Bold as Brass fel y person Mwyaf Dylanwadol yn Gyffredinol yn y gwobrau eleni
Enillwyr Categori o’r 100 Uchaf
Siu Mun Li, enillydd gwobr gyffredinol y llynedd, a gyflwynodd y wobr Mwyaf Dylanwadol yn Gyffredinol eleni i Katherine Evans
Sally-Anne Hayward (Digrifwr), Siu Mun Li (Cyfarwyddwr, Temporary Works Forum UK), Katherine Evans (Bold as Brass) a Martina Doyle-Turner (Cyfarwyddwr Pobl, CITB)

Cafodd y 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol ym myd Adeiladu hefyd eu dadorchuddio yn y gwobrau gyda’r wobr Mwyaf Dylanwadol yn Gyffredinol y DU yn cael ei ddyfarnu i Katherine Evans o Bold as Brass.

Dywedodd Danny Clarke, Cyfarwyddwr Ymgysylltu, Lloegr yn CITB:

"Llongyfarchiadau i'n henillwyr gwobrau ac i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu. Rydym yn falch iawn o gydnabod y menywod a'r cynghreiriaid anhygoel sy'n sbarduno newid gwirioneddol yn y diwydiant adeiladu.

"Mae'r seremoni wobrwyo a'r rhestr fer yn y 100 uchaf yn dathlu'r menywod sy'n gweithio ar bob lefel yn y sector a'u cyflawniadau aruthrol, tra'n ysbrydoli eraill ac annog y genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfaoedd yn y maes hwn. Rydym yn falch o arddangos y rhai sy'n arwain yn ein diwydiant ac yn gobeithio gweld mwy fyth o ymgeiswyr y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Richard Beresford, Prif Weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr (NFB):

"Roedd hi'n fraint cael mynychu'r digwyddiad Y 100 Gwobr Mwyaf Dylanwadol a dathlu'r menywod a'r cynghreiriaid rhagorol sydd wedi mynd y tu hwnt y flwyddyn hon. Mae'n dyst i'r newidiadau cadarnhaol sy'n digwydd yn y diwydiant ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar ei lwyddiant a pharhau i rymuso a chefnogi ein menywod ym maes adeiladu."

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth