Mae CITB yn cefnogi bron i 9,000 o gwmnïau adeiladu i dderbyn grantiau prentisiaeth
Mae'r corff wedi darparu dros £50m i gyflogwyr ar gyfer grantiau prentisiaeth ers mis Ebrill 2024
- Mae CITB wedi cefnogi dros 24,000 o ddysgwyr a bron i 9,000 o gyflogwyr gyda grantiau prentisiaeth rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2024.
- Mae dros £50m wedi cael ei ddarparu i gyflogwyr ar gyfer grantiau prentisiaeth yn ystod yr un cyfnod
- Mae Tîm Cymorth Newydd-ddyfodiaid CITB wedi mwy na dyblu nifer y bobl y mae wedi’u helpu i ddechrau prentisiaeth
- Mae Coleg Adeiladu Cenedlaethol CITB (NCC) ar y trywydd iawn i wella ei gyfradd cyflawniad gyffredinol ar gyfer prentisiaethau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (10 – 16 Chwefror 2025), mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn datgelu ei fod wedi cefnogi dros 24,000 o ddysgwyr a bron i 9,000 o gyflogwyr gyda grantiau prentisiaeth rhwng Ebrill a Rhagfyr 2024.
Mae bron i 8,000 o'r cyflogwyr a gynorthwyir yn fusnesau micro a busnesau bach o lai na 50 o weithwyr, gan ddangos maint y gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau adeiladu o bob maint.
Mae CITB wedi ymrwymo bron i £150m ar gyfer grantiau prentisiaeth rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025, ac yn y flwyddyn ariannol hyd yn hyn, mae'r corff wedi darparu dros £50m i gyflogwyr ar gyfer grantiau prentisiaeth.
Thema Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni yw 'Sgiliau am Oes', ac ni allai hyn fod yn fwy priodol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Mae dros 180 o wahanol swyddi ym maes adeiladu a thros 100 o wahanol rolau prentisiaeth adeiladu sy'n arwain at yrfaoedd yn y diwydiant i bobl ar bob cam o'u bywyd.
Mae Tîm Cymorth Newydd-ddyfodiaid CITB (NEST) hefyd wedi cefnogi dros 3,500 o brentisiaethau newydd sy'n dechrau rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2024 - mwy na dyblu nifer y prentisiaid newydd maen nhw wedi helpu ymuno â'r diwydiant o'i gymharu â'r cyfnod blaenorol. Mae NEST yn darparu cymorth ymarferol am ddim i helpu cyflogwyr recriwtio prentisiaid.
Yn ogystal, mae Coleg Adeiladu Cenedlaethol CITB (NCC) wedi gweld cynnydd yn eu cyfradd cyflawniad cyffredinol ar gyfer prentisiaethau am dair blynedd yn olynol ac mae ar y trywydd iawn i'w gwneud yn bedair, gyda chyfraddau cyrhaeddiad ar gyfer 2024-25 ar fin cyrraedd y targed o 70% erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Bydd hyn 16% yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ac, yn bwysig, mae 92% o bobl sy'n cwblhau eu prentisiaethau trwy'r NCC yn aros yn y diwydiant, gan ddangos yr effaith sylweddol y mae rhaglen gwella NCC CITB wedi'i chael.
Dywedodd Deb Madden, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â'r Cenhedloedd yn CITB: "Mae gyrfa ym maes adeiladu yn un hynod foddhaus yr wyf yn annog pawb i'w hystyried. Does dim byd yn curo'r sgiliau gwerthfawr sydd i'w dysgu, yr ymdeimlad o gyflawniad o weld prosiect wedi'i gwblhau, a'r rolau sy'n talu'n dda sydd ar gael. Mae 'na gamsyniad nad yw swyddi adeiladu yn talu'n dda, ond dyw hyn ddim yn wir - mae cyflog gweithiwr adeiladu cyfartalog y DU dros £44,000, bron i £9,000 yn uwch na chyflog cyfartalog y DU.
"Mae'n wych gweld yr effaith y mae Tîm Cymorth Newydd-ddyfodiaid CITB a'r Coleg Adeiladu Cenedlaethol yn ei gael, gan gefnogi dysgwyr i ennill sgiliau am oes a chyflogwyr i dyfu eu busnes.
"Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn prentisiaeth neu logi prentis, rwy'n eich annog i gysylltu â CITB i ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi."
Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau prentisiaeth adeiladu neu logi prentis, e-bostiwch newentrant.team@citb.co.uk neu ewch https://www.citb.co.uk/cy-gb/ynglyn-a-citb/cysylltu-a-citb/
![](/media/5m2olejg/shot-1056sm.jpg)
![](/media/32ainoaf/shot-491_19052_bornesm.jpg)
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth