Tu ôl i lenni adeiladu: CITB yn annog ymwelwyr i gofrestru ar gyfer Open Doors 2025
Mae pobl sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn adeiladu nawr yn gallu cofrestru i fynychu Open Doors 2025, sy’n dychwelyd 17-22 Mawrth. Mae’r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Build UK mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a CSCS, gyda chefnogaeth partneriaid cyfryngau, cymunedol a diwydiant, sy’n annog pobl i archebu lle a mynychu.
Mae Open Doors yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc a’r rhai sy’n chwilio am newid gyrfa i fynd y tu ôl i lenni safleoedd adeiladu, cyfleusterau gweithgynhyrchu, swyddfeydd a chanolfannau byw ledled y DU. Bydd y rhai sy’n mynychu Open Doors yn gallu dysgu am yrfa mewn adeiladu trwy deithiau safle a sesiynau holi ac ateb gyda gweithwyr adeiladu proffesiynol ac mewn rhai achosion profiadau rhyngweithiol.
Mae adeiladu’n yrfa broffidiol. Mae cyflog cyfartalog gweithiwr adeiladu yn y DU dros £44,000, bron i £9,000 yn uwch na chyflog cyfartalog y DU. Mae mwy na 180 o wahanol alwedigaethau ym maes adeiladu a thros 100 o wahanol rolau prentisiaeth adeiladu sy’n arwain at yrfaoedd yn y diwydiant i bobl ar bob cam o’u bywyd.
Dywedodd Tim Balcon, Prif Weithredwr, CITB: “Mae Open Doors yn blatfform i’r diwydiant adeiladu ddod at ei gilydd a dangos manteision gyrfa ym maes adeiladu – y sgiliau gwerthfawr i’w dysgu, yr ymdeimlad o gyflawniad wrth i brosiect gael ei gwblhau, a’r rolau sy’n talu’n dda ar gael. Does dim byd arall tebyg i ddysgu o lygad y ffynnon os yw adeiladu yn addas i chi – ac yn bwysicach fyth, pa agwedd ar adeiladu sydd ar eich cyfer chi.
“O rolau ar y safle i’r swyddfa, mae’r diwydiant adeiladu yn amrywiol gyda digon o gyfleoedd i uwchsgilio a datblygu ar hyd y blynyddoedd. Nid oes unrhyw rôl yr un peth â’r llall.
“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â digwyddiad Open Doors ym mis Mawrth a gweld effaith y digwyddiad unigryw hwn yn bersonol, o ddarpar brentisiaid i’r rhai sy’n edrych am newid gyrfa, mae rhywbeth at ddant bawb.”
Dywedodd Julie White, Cadeirydd, Build UK: “Nid yw’r math hwn o fenter erioed wedi bod yn bwysicach i helpu i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i gael ‘Prydain Wrthi’n Adeiladu Eto’.
“Er bod y teithiau eu hunain yn darparu cefndir diddorol i archwilio’r amrywiaeth o rolau sydd ar gael, maent hefyd yn gyfle unigryw i siarad ag arweinwyr adeiladu a phrentisiaid am eu llwybr i mewn i’r diwydiant.
“Dywedodd bron i 90% o’r 5,000 o ymwelwyr a fynychodd ddigwyddiad Open Doors y llynedd eu bod yn fwy tebygol o ystyried gyrfa mewn adeiladu yn dilyn eu hymweliad, felly byddwn yn annog pawb i archebu lle ar ddigwyddiad nawr a darganfod beth yn union sydd gan adeiladu i’w gynnig!”
Datgelodd adroddiad Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu CITB fod angen i’r diwydiant adeiladu recriwtio 50,000 o weithwyr newydd y flwyddyn tan 2028, gan ddangos maint y cyfleoedd ar gyfer newydd-ddyfodiaid.
Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr y llynedd, mae Tîm Cymorth i Newydd-ddyfodiaid CITB (NEST) eisoes wedi helpu dros 2,676 o bobl i ddechrau prentisiaeth. At ei gilydd, cefnogodd CITB fwy na 24,000 o brentisiaid yn ystod eu cyrsiau yn 2024.
Bydd CITB yn croesawu mynychwyr i safleoedd ei Goleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) yn Bircham Newton ac Inchinnan fel rhan o raglen Open Doors.
Gall pobl sydd â diddordeb mewn mynychu digwyddiad Open Doors ym mis Mawrth ddod o hyd i wybodaeth neu archebu lle yma.
Gall cyflogwyr sydd am gymryd rhan gofrestru o hyd yn Open Doors.
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth