Facebook Pixel
Skip to content

Y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad adolygu’r Bwrdd Hyfforddiant Diwydiannol

Heddiw, cyhoeddodd yr Adran Addysg ymateb y Llywodraeth i Adolygiad ITB, a gynhaliwyd gan Mark Farmer yn 2023 ac a gwblhawyd y llynedd.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen hanfodol am waith y Byrddau Hyfforddiant Diwydiannol (ITBs) o fewn y diwydiannau adeiladu a pheirianneg ac yn dod i’r casgliad y dylid cadw’r model grant Lefi ITB. Yn wir, mae’n nodi y dylid cryfhau rôl yr ITBs ac yn galw arnynt i wneud mwy.

Mae’n atgyfnerthu bod yr ECITB a CITB yn bodoli i ddiwallu anghenion sgiliau arbenigol y diwydiannau. Mae angen yr ITBs i fynd i’r afael â methiant y farchnad o ran darparu hyfforddiant, cynyddu lefelau sgiliau a chymell hyfforddiant na fyddai’n digwydd fel arall.

Roedd y Gweinidog Gwladol dros Sgiliau, y Gwir Anrhydeddus Farwnes Smith o Malvern, yn cefnogi llawer o’r argymhellion a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys y dylid cadw’r model ITB.

Ymhlith yr 17 argymhelliad strategol, mae’r adolygiad yn cynnig y dylai’r CITB a’r ECITB ffurfio un corff. Safbwynt y Llywodraeth yw, er bod manteision sylweddol i fwy o aliniad a chydweithrediad rhwng y ddau ITB, nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddeddfu i greu un corff. Bydd grŵp llywio yn cael ei sefydlu i ystyried gweithredu’r holl argymhellion.

Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog wedi gofyn am fwy o gydweithio rhwng yr ECITB a CITB ar feysydd penodol megis seilwaith ledled Prydain Fawr, cynyddu hyfforddwyr, swyddi ynni glân a phasbortio sgiliau. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu gweithredu ar y cyd yn y meysydd hyn.

Dywedodd Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol CITB: “Yn bwysig, mae’r adroddiad yn cydnabod yr heriau sgiliau sylweddol sy’n wynebu’r diwydiannau adeiladu a pheirianneg a’r rôl hanfodol y mae’r ITBs yn ei chwarae wrth helpu i fynd i’r afael â’r rhain. Ymhellach, mae’n haeru mai’r ffordd orau o wneud hynny yw cadw’r model ITB a Lefîau sy’n benodol i’r diwydiant.

“Mae cyllid grant ar gyfer prentisiaethau a newydd-ddyfodiaid yn hanfodol, gyda mwy na dwy ran o dair o brentisiaethau yn dechrau yn y diwydiant adeiladu yn cael eu cyflogi gan gwmnïau o lai na 50 o weithwyr.

“Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da o ran gwella ein hymgysylltiad â chyflogwyr a dysgwyr, megis cyflwyno ein Rhwydweithiau Cyflogwyr ledled y wlad a’r gwelliannau sylweddol yn ein Colegau Adeiladu Cenedlaethol.

“Yn ogystal, rydym yn mynd i’r afael â llawer o’r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad trwy ein cynllun strategol. Rydym yn gweithio gyda diwydiant a’n holl bartneriaid i ddatblygu system hyfforddiant a sgiliau sy’n gweithio nawr ac yn y dyfodol. System sy'n cefnogi diwydiant i hyfforddi ei weithlu ac yn helpu i ddod â gweithwyr medrus ac amrywiol i mewn i ddiwydiant.

“Rydym eisoes yn cydweithio’n agos ag ECITB ar rai meysydd allweddol a byddwn yn ehangu hyn yn gydweithrediad mwy ffurfiol lle mae’n cynnig gwerth i’r sector.

“Rhaid i ni symud yn gyflym i weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag anghenion diwydiant ar y cyd heb yr oedi a’r aflonyddwch y byddai newidiadau deddfwriaethol neu strwythurol yn sicr o’u hachosi a byddai hynny’n anochel yn niweidiol i lwyddiant y diwydiant. Mae angen i ni ganolbwyntio ar laser ar fynd i’r afael ag anghenion diwydiant drwy ddarparu lefelau safonedig o gymhwysedd, llwybrau amgen i mewn i ddiwydiant a’i gwneud yn haws ac yn rhatach i gael mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel.”

Dywedodd Andrew Hockey, Prif Swyddog Gweithredol yr ECITB: “Mae’r adroddiad yn amlygu’r gwerth y mae’r ECITB a CITB yn ei wneud i’n diwydiannau priodol. Mae’n dyfynnu gwaith yr ECITB ar Gymhwysedd Cysylltiedig, ein rhaglenni i dyfu newydd-ddyfodiaid a’n menter Hwb Sgiliau Rhanbarthol fel enghreifftiau da o’r hyn sydd angen ei wneud, a’r hyn y gellir ei ehangu.

“Rydym yn croesawu cydweithio agosach gyda’r CITB, yn enwedig ym maes sgiliau seilwaith lle mae cyffredinedd uwch rhwng olion traed yr ITBs.

“Fel y mae’r adolygiad yn ei gydnabod, mae budd sylweddol i’r ddau ITB gydweithio’n agosach ar seilwaith; adeiladu niwclear newydd yn enghraifft glir lle mae gweithwyr adeiladu sifil a'r diwydiant peirianneg adeiladu (ECI) yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.

“Rydym eisoes yn gweithio gyda’r CITB ac EDF ar gynllunio sgiliau strategol ar gyfer Sizewell C gyda’r bwriad o ddatblygu llwybrau hyfforddi gyrfa gyfan ac ymyriadau sy’n rhychwantu cyfnodau sifil ac ECI y prosiect hwnnw.

“Bydd ffurfioli’r dull hwn ar gyfer prosiectau niwclear a phrosiectau seilwaith allweddol eraill – fel y rhai sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio clystyrau diwydiannol y DU – yn fuddiol iawn a dylai gryfhau’r ddarpariaeth a’r effaith.

“Rydym wedi dechrau’r broses o gwmpasu’r argymhellion a datblygu cynlluniau i’w gweithredu, a fydd yn golygu ymgynghori â diwydiant a’r llywodraeth. Rydym eisoes yn mynd i’r afael â llawer o’r heriau sgiliau strwythurol a amlygwyd gan yr adolygiad a byddwn yn adeiladu ar y rhain ymhellach wrth inni ddatblygu ein strategaeth newydd, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.

“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gyflawni ein mandad gan ddiwydiant i arwain dysgu diwydiant. Mae hyn yn cynnwys denu newydd-ddyfodiaid, ehangu’r llwybrau mynediad i ddiwydiant a chefnogi darpariaeth hyfforddiant o ansawdd uchel.”

Wedi’i adolygu ddiwethaf yn 2017, asesodd adolygiad yr ITB rôl ac effeithiolrwydd Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Peirianneg Adeiladu (ECITB) a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB). Mae'r adolygiad yn deillio o ofyniad, a osodwyd gan Swyddfa'r Cabinet, i bob corff cyhoeddus gael ei adolygu o bryd i'w gilydd.

Gweler yr adroddiad llawn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth:  Adolygiad Bwrdd Hyfforddiant Diwydiannol (ITB) 2023

Darllenwch ein Tudalennau Holi ac Ateb i gael rhagor o wybodaeth am yr Adolygiad ITB

Ar hyn o bryd nid does unrhyw gynlluniau i ddeddfu i gyfuno’r ddau Fwrdd Hyfforddiant Diwydiannol, gan mai dim ond yn rhannol y derbyniwyd yr argymhelliad i ffurfio un corff gan y Llywodraeth. Bydd grŵp llywio sy’n cynnwys nifer o Adrannau’r Llywodraeth a’r ddau Fwrdd ITB yn cael ei sefydlu i edrych ar y posibilrwydd o roi’r holl argymhellion ar waith. Bydd y gwaith i gwmpasu’r posibilrwydd o gyfuno’r ddau ITB yn cymryd amser, felly nid oes dim yn sicr ar hyn o bryd, a byddai’n anghywir rhagdybio’r canlyniad.

Gallai’r canlyniad amrywio o gydweithio gwirfoddol i greu un corff. Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog wedi gofyn am fwy o gydweithio a gwell rhyngom ni ac ECITB ar feysydd penodol lle gallwn gefnogi ein gilydd a lle mae gorgyffwrdd rhwng ein gwaith. Y meysydd penodol yw:

1. Seilwaith ledled Prydain Fawr

2. Cynyddu niferoedd hyfforddwyr ac aseswyr

3. Swyddi ynni glân

4. Pasbortio sgiliau

Mae’r ddau ITB wedi ymrwymo i gydweithio’n agosach ac mae’r gwaith hwn eisoes wedi dechrau o ddifrif ar sail wirfoddol. Mae CITB eisoes yn gweithio gyda’r ECITB mewn nifer o feysydd gan gynnwys cynllunio sgiliau strategol ar gyfer Sizewell C.

Ni allwn roi union amserlen ar hyn o bryd, ond disgwyliwn i’r ymarfer hwn gael ei gynnal dros y deuddeg mis nesaf a chael ei arwain gan yr Adran Addysg. Beth bynnag fydd canlyniad y gwaith cwmpasu hwn, bydd angen cynllunio manwl i ffurfioli unrhyw aliniad ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynllun i ddeddfu i gyfuno’r ddau ITB.

Nac ydym. Roedd y Bwrdd yn glir na ddylem aros. Mae gennym ddyletswydd i ddiwydiant i barhau â’r gwaith hanfodol a wnawn i ddenu newydd-ddyfodiaid, ehangu’r llwybrau mynediad i ddiwydiant a chefnogi darpariaeth hyfforddiant o ansawdd uchel, ac rydym am fod yn feiddgar yn ein huchelgais.

Bydd ein Cynllun Strategol yn adlewyrchu ac yn nodi sut rydym yn bwriadu gweithredu rhai o argymhellion Adroddiad Adolygu’r ITB. Mae hyn yn cynnwys y gwaith yr ydym yn ei wneud ar y cyd ag ECITB.

Nac ydym. Mae’r Adran Addysg wedi bod yn glir y dylem barhau â Chonsensws yn ôl y drefn, a bydd y broses ffurfiol yn cychwyn ar Fawrth 17eg yn dilyn yr ymgynghoriad ar draws y diwydiant ar y Cynigion Lefi drafft a gynhaliwyd yn hydref 2024. Mae’r adolygiad wedi cadarnhau ei fod yn credu y dylid cadw’r system ITB Statudol ac, er mwyn i CITB barhau i gefnogi diwydiant yn ddi-dor, bydd angen i Gonsensws barhau fel y cynlluniwyd. Bydd ein Gorchymyn Lefi presennol yn dod i ben yn gynnar yn 2026, ac mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ymgynghori ar Gynigion Lefi ar gyfer y cyfnod tair blynedd nesaf.

Rhan fawr. Rhannwyd ein hymateb manwl i’r argymhellion â Gweinidogion y llynedd ac ers hynny rydym wedi ymgysylltu’n agos â swyddogion ar beth fydd cydweithio ac aliniad agosach yn golygu. Fel aelod o’r grŵp llywio, byddwn yn ymwneud â sut i weithredu’r holl argymhellion yn yr adroddiad. Rydym hefyd wedi dechrau gweithio gydag ECITB i ddatblygu cynlluniau i gydweithio ar seilwaith (e.e. Sizewell C) a chynyddu’r nifer o hyfforddwyr ac aseswyr.

Disgwylir i’r gweithgaredd cwmpasu gymryd blwyddyn i’w gwblhau. Hyd yn oed ar ôl i’r broses ddod i ben, mae’n debygol o gymrwyd mwy o amser a chynllunio i ffurfioli unrhyw aliniad y cytunwyd arno. Bydd creu un corff – os mai dyna’r penderfyniad – yn cymryd llawer hirach gan y bydd yn golygu newidiadau i’r ddeddfwriaeth.

Felly, byddwn yn parhau i weithio tuag at gyflawni ein cenhadaeth, i gau’r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu. Bydd ein fframwaith ar gyfer ein gwaith i gyflawni hyn yn cael ei gosod yn ein Cynllun Strategol sydd i’w gyhoeddi cyn bo hir.

Na, mae’r cynlluniau ar gyfer Consensws ar Gynigion Lefi yr ymgynghorwyd yn eu cylch â chyflogwyr yn 2024 yn aros yr un fath a byddant yn dechrau ar 17eg o Fawrth 2025. Mae’r cyfraddau lefi arfaethedig sy’n mynd i Gonsensws hefyd yn parhau’n ddigyfnewid ar 0.35% o Daliadau TWE a 1.25% o Daliadau CIS Trethadwy a byddant yn darparu’r cyllid angenrheidiol i gyflawni’r Cynllun Strategol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2026 – Ebrill 2029.

Rydym wedi ystyried argymhellion Adolygiad yr ITB, ymateb y Llywodraeth iddynt a barn y diwydiant, ac wedi dyrannu cyllid yn unol ag incwm Lefi disgwyliedig. Nid oes unrhyw gynlluniau i leihau grantiau, cyllid na chymorth drwy ein Rhwydweithiau Cyflogwyr.

Mae pwrpas Adolygiad yr ITB a Chonsensws yn wahanol iawn i’w gilydd. Cyfeiriad a pherfformiad CITB yn y dyfodol yw diben Adolygiad yr ITB, tra bod gan Gonsensws ddiben llawer culach, sef deall lefel y gefnogaeth gan gyflogwyr sy’n talu’r Lefi ynghylch y trefniadau i gynhyrchu Lefi arfaethedig am gyfnod o dair blynedd. Nid yw Consensws yn gwestiwn a ddylai CITB gael ei gadw ai peidio, mae’n ymwneud â chytuno ar y mecanwaith mwyaf priodol i gynhyrchu’r Lefi i ariannu’r Cynllun Strategol a chefnogi anghenion sgiliau a hyfforddiant y diwydiant.

Mae Adolygiad yr ITB wedi cadarnhau cadw’r sail statudol a nawr bydd Consensws yn helpu i ddangos lefel y gefnogaeth i’r trefniadau Lefi arfaethedig.

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth