Facebook Pixel
Skip to content

Y nifer uchaf erioed o gystadleuwyr yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild

Mae colegau ar draws y DU yn paratoi i gynnal y gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hiraf, gyda dros 1,000 o fyfyrwyr ar fin cystadlu yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild 2024 eleni.

Cyflwynir SkillBuild gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac mae’n arddangos rhai o dalentau disgleiriaf y diwydiant adeiladu, wrth i hyfforddeion a phrentisiaid hynod fedrus fynd benben â’i gilydd i gael eu coroni’n enillydd y grefft o’u dewis.

Ar draws deg crefft wahanol, bydd cystadleuwyr yn cael eu profi ar eu galluoedd technegol, rheoli amser, datrys problemau a sgiliau gweithio o dan bwysau. Fodd bynnag, daw llawer o fanteision i’r gystadleuaeth fawreddog, a phrofwyd ei bod yn gwella sgiliau technegol a chyflogadwyedd, yn ogystal â datblygu opsiynau gyrfa.

Mae 19 o Gystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol yn cael eu cynnal ledled y DU o 23 Ebrill hyd at 4 Gorffennaf. Mae’r digwyddiadau undydd hyn yn dod â dysgwyr sy’n cwblhau tasg osod sy’n berthnasol i’w crefft at ei gilydd.

Yn dilyn y Cystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol, bydd yr wyth cystadleuydd sy’n sgorio’r uchaf o bob categori crefft yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU. Yn Dilyn lwyddiant y llynedd, cynhelir y Rownd Derfynol Genedlaethol eto yn Arena Marshall yn Milton Keynes o 18-22 Tachwedd 2024. Mae’r arena wedi croesawu’r Pencampwriaethau Badminton Cenedlaethol, twrnameintiau dartiau a chyngherddau cerdd amrywiol yn flaenorol.

Gyda 225,000 o weithwyr ychwanegol yn ofynnol i fodloni galw adeiladu’r DU erbyn 2027, mae SkillBuild yn gyfle gwych i hyrwyddo’r ystod amrywiol o rolau sydd ar gael ac arddangos y diwydiant i gynulleidfaoedd newydd.

Meddai Jacqui Hawthorne, enillydd Paentio ac Addurno SkillBuild 2023:

“Mae SkillBuild yn gystadleuaeth wych ar gyfer dysgwyr adeiladu a phrentisiaid gan ei fod yn profi eich galluoedd ac yn eich herio.

“Rwyf wedi bod trwy broses cystadleuaeth SkillBuild tair blynedd yn olynol a’r llynedd enillais y safle 1af mewn Paentio ac Addurno, ac rwy’n hynod falch ohono. Mae gwybod eich bod wedi cystadlu yn erbyn rhai o’r dysgwyr a’r prentisiaid gorau yn y wlad o blith cannoedd o ymgeiswyr ac ennill yn deimlad hollol anhygoel ac mae’n help mawr i’ch symud ymlaen trwy’ch gyrfa.

“Rwyf nawr yn cychwyn ar fy siwrnai fel beirniad dan hyfforddiant i’r tîm Paentio ac Addurno yn SkillBuild ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y dalent ffres newydd sy’n dod drwy’r gystadleuaeth eleni.”

Dywedodd Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol CITB:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld y nifer uchaf o gystadleuwyr yn camu i’r adwy i arddangos eu sgiliau yng Nghystadlaethau Rhagbrofol Rhanbarthol SkillBuild 2024. Gadewch i ni hyrwyddo pob un ohonynt wrth iddynt baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol adeiladu, gan ysbrydoli eraill i ymuno â’r diwydiant deinamig a hanfodol hwn.

“Mae SkillBuild yn fenter wych sydd nid yn unig yn helpu pobl ifanc i dyfu eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol, ond mae hefyd yn ffordd wych o’u cynorthwyo’n broffesiynol trwy ddysgu sgiliau newydd a mireinio eu crefft mewn amgylchedd cyfeillgar ac amrywiol. Mae’n gyfle i bob un ohonom weld yr hud sy’n digwydd pan fydd angerdd yn cwrdd â thalent.”

Hoffai CITB ddiolch i holl noddwyr a chefnogwyr gwych cystadleuaeth SkillBuild eleni: Albion Stone, BAL Adhesives, Band of Builders, Brick Development Association, British Gypsum, Crown Paints, FIS, Institute of Carpenters, N&C Nicobond, NFRC, NSITG, Saint Gobain, Schluter, SPAX, Stabila, Stone Federation, TARMAC, The Tile Association, Tilgear, Weber, Wienerberger, a The Worshipful Company of Tylers and Bricklayers.

I ganfod mwy am gystadleuaeth SkillBuild, ewch i wefan Am Adeiladu.