Swyddi ar y Pwyllgorau
Mae CITB ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Aelodau Cyngor Cenedl ar gyfer yr Alban a Chymru, ac ar gyfer Cadeirydd Cyngor Cenedl Cymru.
Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Swydd Aelod Pwyllgor Archwilio a Risg CITB
Mae CITB yn gwahodd arbenigwyr sydd â chymwysterau mewn archwilio, sicrwydd neu gyfrifeg/cyllid i ymuno â’i Bwyllgor Archwilio a Risg fel Aelod Annibynnol.
Rôl
Mae un swydd Aelod Annibynnol ar gael o fis Gorffennaf 2025, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu’r Pwyllgor i sicrhau bod Bwrdd a Swyddog Cyfrifyddu CITB yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau CITB ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaethau mewnol, a datblygiadau strategol arwyddocaol eraill.
Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cynghori a gall wneud argymhellion i’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu ar:
- Y prosesau strategol ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethu a'r Datganiad Llywodraethu;
- Y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon ac adroddiad blynyddol y sefydliad gan gynnwys y broses ar gyfer adolygu'r cyfrifon cyn eu cyflwyno i'w harchwilio, lefelau'r gwallau a nodwyd, a llythyr sylwadau'r rheolwyr at yr archwilwyr allanol;
- Y trefniadau ar gyfer ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth archwilio mewnol ac allanol, gan gynnwys ystyried eu hadroddiadau;
- Sicrwydd, gan gynnwys gan ddarparwyr gwasanaethau a gontractir yn allanol neu a rennir, yn ymwneud â rheoli risg a gofynion llywodraethu corfforaethol ar gyfer y sefydliad;
- Polisïau corfforaethol allweddol, gan gynnwys gwrth-dwyll a llwgrwobrwyo, llywodraethu gwybodaeth a diogelwch, iechyd a diogelwch, cronfeydd wrth gefn, cyfalaf gweithio, trysorlys a buddsoddiadau, chwythu'r chwiban, a rheoli risg;
- Trefniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig;
- Iechyd, Diogelwch a Lles ar draws CITB;
- ac yn ystyried pynciau eraill fel y'u diffinnir gan y Bwrdd.
Felly, rhaid i’r Pwyllgor feddu ar ystod eang o sgiliau a phrofiad mewn perthynas â chyllid, llywodraethu, risg a rheolaeth er mwyn sicrhau bod materion yn cael eu harchwilio a’u datrys yn llawn.
Sgiliau ac Arbenigedd
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â sgiliau a phrofiad cyfredol mewn archwilio, sicrwydd neu gyfrifeg/rheolaeth ariannol i ychwanegu gwerth at y Pwyllgor. Nid oes angen profiad Bwrdd neu Bwyllgor blaenorol. Byddai'r rôl yn gyfle da i unigolyn sydd am ehangu ei CV gyda phrofiad ehangach.
Ymrwymiad
Mae pob penodiad Aelod am gyfnod o hyd at bedair blynedd ac ni chaiff ei dalu, er y telir costau teithio. Mae o leiaf pedwar cyfarfod y flwyddyn, a gynhelir naill ai o bell trwy gynhadledd fideo, neu mewn lleoliad penodol, ac mae cyfarfodydd yn para tua 3 awr.
Ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, cymerwch amser i fynd drwy'r Cylch Gorchwyl a'r Disgrifiad Swydd i sicrhau bod gennych y sgiliau gofynnol. Os hoffech wneud cais, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb a’i hanfon drwy e-bost at corporate.governance@citb.co.uk erbyn 30 Ebrill 2025.
Bydd pob cyflwyniad Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei ystyried ar gyfer rhestr fer gan banel sy’n cynnwys dau Ymddiriedolwr Bwrdd CITB (gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor), Cyfarwyddwr Cyfreithiol, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth CITB a Phennaeth Archwilio a Risg CITB. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu hystyried gan y Panel ac sy'n bodloni'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol yn cael eu dewis ar gyfer cyfweliad gyda Chadeirydd y Pwyllgor ac un aelod arall o'r Panel, a fydd wedyn yn gwneud argymhelliad i'r Bwrdd ar gyfer penodi'r ymgeisydd a ffafrir.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn llythyr apwyntiad ffurfiol gan Dîm Llywodraethu Corfforaethol CITB, ynghyd ag amserlen o’r cyfarfodydd sydd i ddod a Phecyn Sefydlu.
Julia Heap, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg CITB:
“Mae arbenigwyr annibynnol allanol yn llais hanfodol ac uchel ei barch yn ein Pwyllgor Archwilio a Risg bywiog. Gan ddod â safbwyntiau arbenigol allanol i herio ac ychwanegu at ein trafodaethau, rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â chyfrifoldebau cyfredol ym meysydd archwilio mewnol, cyllid neu risg a allai fod yn chwilio am brofiad lefel bwrdd cyntaf.”
Tim Balcon, Prif Swyddog Gweithredol a Swyddog Cyfrifyddu CITB:
“Mae Pwyllgor Archwilio a Risg CITB yn chwarae rhan hanfodol yn y ddarpariaeth o oruchwyliaeth ac ysgogiad ar gyfer gwelliant parhaus. Gan ganolbwyntio ar yr amgylchedd rheoli, adrodd a rheoli risg y busnes, bydd y rôl hon yn cyfrannu at wella tryloywder ac yn y pen draw’r effaith y mae CITB yn ei chreu er budd y Diwydiant Adeiladu.”
Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Pwyllgor y Coleg Adeiladu Cenedlaethol a Phrentisiaethau CITB Swydd Aelod Annibynnol
Mae CITB yn gwahodd unigolion sydd â phrofiad cyfredol neu ddiweddar o weithio mewn AB a Sgiliau, yn enwedig y rhai sydd ag arbenigedd mewn cyllid, datblygu busnes neu ddatblygu ystadau i ymuno â Phwyllgor y Coleg Adeiladu Cenedlaethol a Phrentisiaethau fel Aelod Annibynnol.
Rôl
Rydym yn chwilio am ddau weithiwr proffesiynol profiadol i gyfrannu eu harbenigedd at weledigaeth tymor hwy’r Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) CITB i greu gwerth sylweddol i’r diwydiant adeiladu trwy ehangu’r cynnig hyfforddiant, darparu addysgu, dysg a chymorth rhagorol, a darparu arweinyddiaeth ddisglair ar draws y sector hyfforddi ehangach.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn helpu Pwyllgor y Coleg Adeiladu Cenedlaethol a Phrentisiaethau i roi’r sicrwydd angenrheidiol i’r Bwrdd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd cwricwlwm a pherfformiad yr NCC o ran darparu hyfforddiant a pherfformiad rôl Asiantaeth Reoli CITB yn yr Alban. Mae’r Pwyllgor yn adrodd i Fwrdd CITB ac yn cael ei gadeirio gan un o Ymddiriedolwyr Bwrdd CITB, Michael Green.
Pwrpas Pwyllgor y Coleg Adeiladu Cenedlaethol a Phrentisiaethau yw:
- Cefnogi’r Bwrdd i gyflawni ei gyfrifoldeb i sicrhau trosolwg o’r cwricwlwm, ansawdd a chyflwyniad y ddarpariaeth hyfforddiant, profiad y dysgwr, diogelu a lles dysgwyr, iechyd a diogelwch, adnoddau, a chyllid a chydymffurfiaeth reoleiddiol darpariaeth yr NCC a Phrentisiaethau CITB.
- Monitro ac adolygu darpariaeth, ansawdd ac effaith darpariaeth prentisiaethau CITB yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ynghylch gweithgareddau ariannu a chydymffurfiaeth reoleiddio a chynnig argymhellion i’r Bwrdd ynghylch cyfeiriad y ddarpariaeth hon yn y dyfodol.
- Wrth wneud penderfyniadau ac argymhellion bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol ynghyd â chanllawiau ac arfer gorau mewn hyfforddiant sgiliau, addysg a diogelu.
Er mwyn gwasanaethu diwydiant yn y ffordd orau, mae angen i’r Pwyllgor gwmpasu amrywiaeth eang o gynrychiolaeth o bob rhan o hyfforddiant adeiladu a chynnwys unigolion sy’n haddysg yn y rheoliadau AB a sgiliau presennol a gofynion hyfforddi diwydiant.
Sgiliau ac Arbenigedd
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd ag arbenigedd mewn cyllid addysg ac adnoddau, datblygu busnes (hyfforddiant masnachol a/neu a ariennir yn gyhoeddus) neu ddatblygu ystadau i ychwanegu gwerth at y Pwyllgor. Nid oes angen profiad Bwrdd neu Bwyllgor blaenorol. Byddai'r rôl yn gyfle da i unigolion sydd am ehangu ei CV gyda phrofiad ehangach.
Ymrwymiad
Mae pob aelod yn cael ei benodi am gyfnod o hyd at bedair blynedd ac ni chaiff ei dalu, er y telir costau teithio. Cynhelir o leiaf bedwar cyfarfod y flwyddyn, naill ai o bell drwy gynhadledd fideo, neu mewn lleoliad penodol ym Mhrydain Fawr, ac mae cyfarfodydd yn para tua 3 awr. Gellir ychwanegu gweithdai a sesiynau hyfforddi ychwanegol at raglen waith y Pwyllgor o bryd i’w gilydd os oes angen penodol i wneud hynny, ac yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.
Ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, cymerwch amser i fynd drwy’r Cylch Gorchwyl a’r Disgrifiad Swydd i sicrhau bod gennych y sgiliau gofynnol. Os hoffech wneud cais, llenwch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a’i hanfon drwy e-bost at corporate.governance@citb.co.uk erbyn diwedd dydd Gwener 11 Ebrill 2025.
Bydd yr holl Ddatganiadau o Ddiddordeb yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer gan banel sy’n cynnwys dau Ymddiriedolwr Bwrdd CITB (gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor), Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu’r Gwledydd CITB, a Phrif Weithredwr NCC a Phrentisiaethau CITB yr Alban. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu hystyried gan y panel sy'n bodloni'r sgiliau, y profiad a'r wybodaeth angenrheidiol yn cael eu dewis ar gyfer cyfweliad â Chadeirydd y Pwyllgor ac un aelod arall o'r Panel, a fydd wedyn yn gwneud argymhelliad i'r Bwrdd ar gyfer penodi'r ymgeisydd a ffafrir. Bydd y broses hon yn cael ei chefnogi gan Dîm Llywodraethu Corfforaethol CITB.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn llythyr apwyntiad ffurfiol gan CITB, ynghyd ag amserlen y cyfarfodydd sydd i ddod a Phecyn Sefydlu.
Michael Green, Cadeirydd y Pwyllgor Cenedlaethol Colegau Adeiladu a Phrentisiaethau CITB:
“Mae'r NCC yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu hyfforddiant arbenigol i’r Diwydiant Adeiladu, gyda chynllun busnes clir i fuddsoddi’n sylweddol yn ein hystadau i gefnogi anghenion sgiliau’r diwydiant byddem yn croesawu ychwanegu profiad datblygu ystadau i’n tîm. Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i lunio dyfodol Hyfforddiant Adeiladu ar draws y DU.”
Kirsty Evans, Prif Weithredwr NCC a Phrentisiaethau CITB yr Alban:
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â ni, gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf yn ein harlwy masnachol a phrentisiaethau, prosiect 3 blynedd i ailadeiladu ein campws NCC De yn Erith a ffocws parhaus ar ansawdd sy'n sicrhau canlyniadau gwych i'n dysgwyr yn yr Alban a Lloegr. Bydd eich arbenigedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cyflogwyr a'r dysgwyr rydym yn eu cefnogi."
Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Rolau Aelodau Cynghorau’r Gwledydd
Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn chwilio am gynrychiolwyr diwydiant uwch, profiadol a gwybodus o BbaCHau, cyflogwyr mawr, ac ymgynghorwyr annibynnol ac ati a all ddangos ymagwedd ymgynghorol a chydweithredol at weithio mewn partneriaeth o fewn Cynghorau’r Gwledydd a gyda Bwrdd CITB.
Mae gan Gynghorau’r Gwledydd rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi Bwrdd CITB yn ei arweinyddiaeth strategol, drwy ddarparu mewnwelediad i heriau diwydiant, ar draws gwledydd, rhanbarthau a sectorau a gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer Ymddiriedolwyr. Yn benodol:
- Casglu a mynegi i’r Bwrdd y materion allweddol sy’n effeithio neu’n debygol o effeithio ar ddiwydiant dros gyfnod a ragwelir o 3 blynedd.
- Ynghyd â Chynghorau’r Gwledydd yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban cynorthwyo’r Bwrdd i flaenoriaethu cymorth yn gywir ar gyfer materion allweddol sy’n effeithio ar ddiwydiant ledled Prydain Fawr.
- Adolygu a chynghori’r Bwrdd ar Gynllun Busnes Strategol CITB (‘y Cynllun’) i sicrhau bod y Cynllun yn mynd i’r afael yn briodol â chyfleoedd, pwysau a blaenoriaethau’r diwydiant fel y’u nodwyd trwy sylfaen dystiolaeth CITB, y bydd Cynghorau’r Gwledydd yn helpu i’w gwella.
- Gwneud argymhellion amserol i’r Bwrdd am faterion eithriadol sy’n codi a allai effeithio ar allu’r Bwrdd i gyflawni’r Cynllun.
Mae pob Aelod yn cael ei benodi am gyfnod o hyd at dair blynedd ac ni chaiff ei dalu, er y telir costau teithio. Cynhelir o leiaf bedwar cyfarfod y flwyddyn, naill ai o bell trwy Microsoft Teams neu mewn lleoliad penodol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, cymerwch amser i fynd drwy’r Cylch Gorchwyl a’r Disgrifiad Swydd i sicrhau bod gennych y sgiliau gofynnol. Os hoffech wneud cais, llenwch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a’i hanfon drwy e-bost at corporate.governance@citb.co.uk
Bydd y broses ddethol yn digwydd drwy ddetholiad papur i gynnwys mewnbwn gan Gadeirydd Cynghorau’r Genedl. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, byddwch yn cael gwybod am ddyddiadau cyfarfodydd dilynol Cynghorau’r Genedl.
Dywedodd Tony Elliot, cyn-Gadeirydd Cynghorau’r Genedl yn yr Alban CITB a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol Grŵp Robertson:
“Mae Cynghorau’r Genedl yn cael eu harwain gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant – maen nhw’n gysylltiad hanfodol rhwng Bwrdd CITB a chyflogwyr adeiladu. Mae ein haelodau cyngor yn cynnig cyfoeth o fewnwelediad yn seiliedig ar wybodaeth arbenigol a diddordeb personol mewn adeiladu. Mae Cynghorau’r Genedl yn help mawr i uno CITB â’r diwydiant y mae’n ei wasanaethu. Hoffwn annog unrhyw uwch weithwyr proffesiynol yn y diwydiant adeiladu sy’n credu y gallant helpu CITB gyda’i gynlluniau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd i ymgeisio am y rolau hyn – mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth mawr.”
Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth