Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau Chwilio

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Canfuwyd 193 o erthyglau

Defnyddiwch yr hidlwyr chwilio ar yr ochr dde i leihau’r canlyniadau.

Cliciwch yma i ddychwelyd i'r dudalen penawdau newyddion.

CITB yn lansio hyfforddiant recriwtio cynhwysol am ddim ar gyfer BBaChau

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio modiwlau hyfforddi digidol newydd, am ddim sydd wedi’u cynllunio i wneud recriwtio’n fwy cynhwysol, hygyrch ac effeithiol.

Open Doors 2026: Mae cofrestru ar gyfer digwyddiadau bellach ar agor i gyflogwyr

Mae gan gyflogwyr ym maes adeiladu ledled y wlad gyfle i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu drwy ddangos cyffro gyrfa yn y diwydiant adeiladu a chymryd pobl ifanc i un o’u safleoedd gweithredol.

Cyhoeddi enillwyr 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2025

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn falch o gyhoeddi enillwyr Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2025. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, sy’n dathlu ac yn anrhydeddu unigolion eithriadol yn y sector, ar 18fed o Fedi yng Ngwesty’r Cloc, Kimpton, Manceinion

Gweithredwr Peiriannau’r DU y flwyddyn 2025: Y Canlyniadau

Cynhaliwyd Gweithredwr Peiriannau’r DU y flwyddyn (UKPO) 2025 yng Ngholeg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) CITB yn Bircham Newton, Norfolk, ddydd Sadwrn 6 Medi. Daeth y gystadleuaeth â’r cystadleuwyr gweithredwyr peiriannau gorau, gweithgynhyrchwyr byd-eang, llogwyr peiriannau cenedlaethol a rhanbarthol a chontractwyr o bob cwr o’r DU ynghyd, gyda’r enillydd cyffredinol yn casglu’r brif wobr o £10,000 o gyfanswm pot gwobrau o £20,000.

Symleiddio mynediad at ein cymorth i gyflogwyr

Rydym wedi bod yn gwrando ar y diwydiant ac wedi clywed bod ein system grantiau a chyllido presennol yn gymhleth a gall fod yn anodd ei llywio. O ganlyniad i hyn, rydym yn symleiddio ein dull o helpu cyflogwyr sydd wedi cofrestru â’r lefi i gael mynediad at gymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant yn fwy effeithiol.

Mis i fynd tan wobrau’r 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu!

Mae Gwobrau’r 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu ond fis i ffwrdd! Yn dychwelyd am y pedwaredd flwyddyn, mae’r gwobrau’n amlygu cyfraniadau arwyddocaol gan ferched o bob rhan o’r diwydiant adeiladu – ac yn arddangos merched yn y sector er mwyn gwneud modelau rôl yn fwy gweladwy ac yn haws eu cyrraedd.

CITB yn lansio’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant i drawsnewid y ddarpariaeth hyfforddiant adeiladu

Bydd y rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant yn trawsnewid y ffordd y caiff hyfforddiant adeiladu ei ddarparu ledled Prydain Fawr drwy gydweithrediad gwirioneddol, cefnogaeth benodol, a mewnwelediadau wedi’u harwain gan gyflogwyr. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio ei Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) heddiw – a fydd yn rhwydwaith sengl o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy, wedi’u sicrhau o ran ansawdd, ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru.

CITB yn hyrwyddo recriwtio cynhwysol drwy lwyddiant prosiect Mind the Gap

Mae’r prosiect wedi creu dros 170 o gyfleoedd gwaith i bobl ag euogfarnau, gan gynhyrchu gwerth cymdeithasol o dros £3.5 miliwn Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi canlyniad yr astudiaeth effaith gymdeithasol annibynnol ar y rhaglen ‘Mind the Gap’, a gyflwynwyd yn llwyddiannus. Dyluniwyd y rhaglen i agor llwybrau newydd i unigolion ag euogfarnau i fynd i mewn i’r diwydiant adeiladu – gan helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau yn y sector wrth gefnogi symudedd cymdeithasol.

CITB yn lansio prosiect diogelwch adeiladau i uwchsgilio gweithwyr ffasadau

Mae’r prosiect gwerth £250,000 yn anelu at uwchsgilio dros 100 o osodwyr system ffasâd sgrîn glaw a 24 o oruchwylwyr. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio prosiect gwerth £250,000 heddiw i uwchsgilio 100 o osodwyr system ffasâd sgrîn glaw a 24 o oruchwylwyr er mwyn cyflymu’r gwaith adfer sydd ei angen ledled y wlad.

CITB yn cefnogi rhaglen gymorth hunanladdiad newydd ochr yn ochr â GIG Cymru

Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi partneru â Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed GIG Cymru i gyflwyno ymgyrch ar draws safleoedd adeiladu yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac yn cyfeirio pobl at y gefnogaeth sydd ar gael.