Facebook Pixel
Skip to content

Adroddiad blynyddol a chyfrifon

Ar y dudalen hon:

Rhagymadrodd

"Eleni, aethom ati i ymateb i adborth a gawsom o'r Consensws diwethaf ac amgylchiadau unigryw'r gweithlu sy'n ymwneud ag adeiladu.

Yn gyntaf, gwnaethom rymuso cyflogwyr drwy roi mwy o lais iddynt ar sgiliau a hyfforddiant, o ran sut y caiff ei gyflwyno a ble. Roeddem yn teimlo bod hwn yn gam pwysig iawn i ffurfio dull mwy cydweithredol o fynd i'r afael â'r heriau sgiliau; Afraid dweud, mae ein holl bwyllgorau a arweinir gan gyflogwyr wedi dangos brwdfrydedd i gefnogi'r newidiadau hyn.

Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfraniad y mae cyflogwyr yn ei wneud i’n pwyllgorau. Mae ein pwyllgorau wedi bod yn allweddol wrth osod yr agenda ar gyfer sgiliau a sicrhau bod ein mentrau yn ymateb yn wirioneddol
i anghenion cyflogwyr.

Mae mentrau newydd, fel y cynllun peilot Rhwydwaith Cyflogwyr, sy'n galluogi cyflogwyr i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio cyllid CITB yn eu hardal, yn ddechrau'r wawr newydd hon. Mae NEST yn enghraifft bellach o CITB yn ei gwneud yn haws cael mynediad at hyfforddiant. Mae'r ddau yn cael eu croesawu'n gynnes gan
ein cwsmeriaid.

Rydym wedi cyflawni rhai pethau gwych gyda'n gilydd eleni. Cefnogwyd 26,200 o brentisiaid, sef dyfodol y gwaith adeiladu, gan bron i £61.5m o gyllid CITB – 14% yn fwy na’r llynedd. Mae ein Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant wedi helpu mwy na 2,100 o fusnesau bach a chanolig – sylfaen ein diwydiant – i uwchsgilio eu gweithlu.

Cefnogodd ein cynllun grant cyrsiau byr cynhwysfawr dros 173,000 o ddysgwyr i gwblhau eu cymwysterau. Ac fe welodd Am Adeiladu, cartref gwybodaeth gyrfaoedd adeiladu, 1.3 miliwn o ymweliadau â’r safle, sef y nifer uchaf erioed." Tim Balcon, Prif Weithredwr CITB.

Adolygiad o 2021-22: cyflawniadau

Ymateb i’r galw am sgiliau

  • 858 wedi eu recriwtio fel Llysgenhadon Stem am adeiladu
  • 1.3m ymweliadau â gwefan am adeiladu
  • 8,500+ ceisiadau am swyddi drwy wefan talentview
  • 650 cyflogwyr yn cael cymorth gan nest
  • 7,731 o bobl wedi defnyddio ein deunyddiau tegwch, cynhwysiant a pharch
  • £5.2m buddsoddiad mewn teithio i hyfforddi
  • 9,800 swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl wedi’u hyfforddi

Datblygu’r capasiti a’r gallu i ddarparu hyfforddiant

  • 2,100 busnesau bach a chanolig a gefnogir gan ein cronfa sgiliau a hyfforddiant
  • 26,200 prentisiaid a gefnogwyd drwy eu hyfforddiant
  • £61.5m cyhoeddwyd mewn grantiau prentisiaethau
  • 173,000 cyrsiau hyfforddi tymor byr a dderbyniodd gymorth grant
  • £2.5m wedi'i arbed gan dros 1,300 o aelodau, gan gyflogwyr yn defnyddio ein 85 grŵp
    hyfforddi i gael mynediad at hyfforddiant
  • 10,000+ dysgwyr sydd wedi’u hyfforddi yn y coleg adeiladu cenedlaethol (ncc)
  • 3,400 dysgwyr sydd wedi cael eu hyfforddi drwy ein rhwydwaith cyflogwyr

Mynd i’r afael ag anghenion sgiliau yn y dyfodol

  • 14 ATO wedi cael eu cyflogii gyflwyno’r gyfres newydd o safonauhyfforddi rheoliac arwain
  • 282 safonau tymor byr wedi cael eu hadolygu
  • 105 adolygiadau safonau galwedigaethol cenedlaethol wedi’u cwblhau
  • 90 safonau hyfforddiant tymor byr wedi cael eu tynnu’n ôl gan nad oes eu hangen mwyach
  • 2 fframweithiau cymhwysedd wedi cael eu cwblhau

Lawrlwythwch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CITB 2021-22

Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022-23 (PDF, 9.3MB)

Adroddiadau ychwanegol

Gwybodaeth am ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol cyfredol a blynyddoedd ariannol blaenorol. Rydym yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon a'n hadroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn.

Ar gyfer cyfieithiadau Cymraeg o unrhyw ddogfennau neu adroddiadau nad ydynt eisoes ar gael yn Gymraeg, e-bostiwch

Adroddiadau a chyfrifon blaenorol

Rhai uchafbwyntiau o'n hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon:

  • Er mwyn cynorthwyo llif arian i gyflogwyr, gwnaethom atal casglu Lefi am bum mis yn ystod 2020 a haneru’r swm sy’n ddyledus ar gyfer 2021-22
  • Cefnogodd y Cynllun Grantiau 13,700 o gyflogwyr gyda chyllid i hyfforddi eu gweithlu trwy'r pandemig a nifer o gyfnodau clo
  • Cefnogodd grantiau prentisiaeth dros 23,000 o brentisiaid a bron i 9,000 o gyflogwyr, a gwnaethom gysylltu â dros 11,000 o brentisiaid i ddarparu cefnogaeth pan oedd angen fwyaf
  • Cefnogodd y Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant bron i 1,000 o gyflogwyr busnesau bach a chanolig. Fe helpodd hyn i fusnesau bach a chanolig dderbyn mwy o'r Lefi na'r swm roeddent yn ei gyfrannu- gan gyfrannu llai na 70% wrth dderbyn dros 73% yn ôl mewn grantiau a chyllid.

Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2020-21

Sut wnaethon ni heddiw? Rhoi adborth